I KA CHING yn cyflwyno Martha Elen gyda sengl gyntaf

Mae label Recordiau I KA CHING wedi croesawu artist newydd sbon ar y label, sef Martha Elen.

Ac wrth wneud hynny, mae’r label hefyd wedi rhyddhau eu sengl gyntaf, sef ‘Canu Cloch’, ers dydd Gwener diwethaf,  25 Ebrill.

Yn wreiddiol o’r Felinheli, mae magwraeth Martha Elen ar lannau’r Fenai yn ddylanwad sy’n llifo’n gyson drwy ei geiriau. Yn cyfuno gweadau cynnil gwerin-americana gyda haenau lleisiol ac alawon bachog alt-pop, mae lle i ganfod cysur rhywle rhwng y dwys a’r ysgafn yn ei chaneuon.

 Daw’r traciau atmosfferig a’r elfennau americana o gydweithio gyda’r cerddorion Gethin Elis, Iestyn Jones, sydd ill dan ddau yn aelodau o’r band WRKHOUSE, ynghyd â Samantha Grace. 

Er ei bod yn troedio i diroedd newydd wrth gyhoeddi cerddoriaeth, mae Martha Elen yn gwahodd gwrandawyr i ddod o hyd i deimlad cyfarwydd ymhlith offeryniaeth dyner a’r delweddau daearol.

Mae ‘Canu Cloch’ yn drac llawn geiriau mewnsyllgar, teimladwy sy’n plethu sŵn ysgafn, acwstig gyda gweadau moethus gwerin-americana. Gwraidd y gân yma oedd y teitl, ac mae’n chwarae gyda’r teimlad anghysurus ddaw wrth anghofio.

“Dechreuodd y gân hefo’r riff syml ar y gitâr a thyfu o fanno yn weddol sydyn”, meddai Martha. 

“Ma na siâp i’r gân lle ma’n drymach erbyn y gytgan cyn eistedd yn nôl yn nhawelwch yr acwstig a’r llais erbyn y diwedd, ar ôl i’r storm basio.”

“Mae delwedda’ o’r môr yn aml yn ffeindio’u ffordd i mhen pan dwi’n sgwennu – ma raid bod byw wrth y Fenai’n deud arnai”.

Mae’r offeryniaeth yn agos iawn at fod yn drac cwbl fyw, gan drosglwyddo’r un teimlad gwreiddiol, naturiol a geir yn aml mewn caneuon americana, tra hefyd yn defnyddio elfennau alt-pop yn yr haenau lleisiol.

Gadael Ymateb