Mae’r band o Ddyffryn Conwy, Yr Anghysur, wedi rhyddhau eu halbwm newydd, sef Er Gwaetha’ Pob Dim.
Yn ôl y band, mae’r albwm yn arddangos cyfuniad unigryw’r band o indie atmosfferig, alt-roc, a geiriau emosiynol, gan gyflwyno profiad gwrando pwerus i gefnogwyr hen a newydd.
Yn dilyn rhywfaint o lwyddiant gyda chyfres o senglau cyn hyn, mae Yr Anghysur wedi creu albwm sy’n arbrofi gyda sain, trefniannau, a themâu newydd wrth aros yn driw i’w gwreiddiau Cymreig.
Band roc Cymraeg a ffurfiwyd yn 2022 gan y brodyr Hedd ac Aran Fôn ydy Yr Anghysur. Aelodau eraill y band ydy Sam Roberts a Mark Kendall, cyn-ddrymiwr y band enwog o Ddyffryn Conwy, Y Cyrff. Yn ddiweddar, ymunodd Osian Glyn fel pumed aelod.
Dechreuodd y band eu gyrfa drwy gefnogi Dafydd Iwan yng ngŵyl Llanast Llanrwst, ac ers hynny maent wedi perfformio’n rheolaidd mewn gwyliau a lleoliadau lleol, gan gynnwys Sesiwn Fawr Dolgellau, Rhudd Fest a llawer mwy.
Rhywbeth i’r gwrandawyr uniaethu hefo
Mae’r albwm yn cynnwys naw o draciau, gan gynnwys y prif drac teitl ‘Er Gwaetha’ Pob Dim’. Er gwaethaf caledi bywyd, mae’r gân yn pwysleisio dyfalbarhad a dal gafael ar obaith.
“Roedden ni eisiau creu rhywbeth y gall y gwrandawyr uniaethu hefo —rhywbeth sy’n mynd â gwrandawyr drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau bywyd, wedi’u lapio mewn alawon a rhythmau sy’n adleisio’r emosiynau,” meddai Hedd Fôn, prif lleisydd y band.
Recordiwyd yr albwm yn Tape Cerdd a Film Cymunedol yn Hen Golwyn gyda help Aled Wyn Clark a Ger “Ninja” Jones.
Yn ogystal â rhyddhau’r albwm, mae’r band yn cynllunio nifer o gigs o amgylch Gogledd Cymru dros y misoedd nesaf, gan gynnwys parti lansio’r albwm ar 4 Mai yng Ngwesty’r Eryrod yn Llanrwst.
Cyn hyn maent wedi rhyddhau tair sengl sef ‘Byd ar Ben i Lawr’, ‘Cofia I’ a ‘Milltir Sgwâr’. Maent hefyd wedi rhyddhau un trac Saesneg sef ‘Keep Me a Seat in Paradise’, a bydd fersiwn Gymraeg o’r trac hwn ar yr albwm newydd.