Mae’r cerddor o Wynedd, Ifan Rhys, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Mercher 1 Hydref.
‘Nôl a Mlaen’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddo sydd allan ar label INOIS, ac sy’n ychwanegiad i’w gasgliad cynnes o ganeuon ar yr EP ‘Hadau’ a ryddhawyd llynedd.
Ar ôl gwneud ei enw fel cerddor dros y blynyddoedd diwethaf, mae Ifan wedi cael cyfle i berfformio gydag artistiaid sy’n cynnwys Y Niwl, Elis Derby a Maes Parcio, yn ogystal â gwneud llwyth o waith sesiwn a chyfansoddi caneuon.
Ar ôl rhyddhau’r EP ‘Hadau’ yn 2024, gan hefyd gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau yr Eisteddfod Genedlaethol, mae Ifan wedi bod yn brysur yn gigio ac yn rhannu blas o’i waith newydd drwy ei sengl newydd ‘Nol a Mlaen’.
Mae’r sengl yn ychwanegiad perffaith at ei gatalog o gerddoriaeth sydd yn cymysgu sain indie cynnes gyda geiriau sy’n mynd a rhywun yn ôl i hafau hir ac atgofion melys.
Wedi ei ysbrydoli gan artistiaid fel Mac DeMarco a King Kruel mae Ifan yn defnyddio ei ddylanwadau i greu sŵn cyfarwydd gan hefyd ddefnyddio ei safbwynt i greu traciau newydd a bachog.
Yn ôl Ifan, mae ei gerddoriaeth yn debyg iawn i allu cofnodi ei fywyd ar ffurf dyddiadur.
“Dwi’n defnyddio cerddoriaeth fel dyddiadur bron, felly mae gallu parhau i sgwennu traciau a’i perfformio fel ffordd o gadw cofnod” meddai.
Mae Ifan wedi bod yn recordio’n ddiweddar gyda’r cynhyrchydd Alaw, sydd hefyd yn rhyddhau cerddoriaeth drwy label INOIS. Mae’r ddau wedi bod yn recordio draw yn Manceinion, gyda’r gobaith o allu datblygu a rhyddhau mwy o’r gerddoriaeth yn fuan.
Mae ‘Nôl a Mlaen’ yn flas cyntaf o’r sesiynau diweddaraf hynny.