Rhyddhau albwm aml-gyfrannog Klust yn ddigidol

Mae Recordiau Sain a gwefan gerddoriaeth Klust wedi cyhoeddi bydd yr albwm aml-gyfrannog, ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’, yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar 17 Ionawr. 

Ryddhawyd yr albwm ar ffurf record feinyl nifer cyfyngedig law yn llaw â thrydydd rhifyn o gylchgrawn Klust ym mis Tachwedd 2024, ac mae’r record yn dathlu gweledigaeth a thalentau rai o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd gan gynnwys Malan, Talulah, Siula, Sywel Nyw a WRKHOUSE. 

Yn albwm ddeg trac sy’n cynnwys gweithiau gwreiddiol, ailgymysgiadau arbennig a fersiynau unigryw, gwelwyd y record yn dod yn fyw dros y gaeaf gyda chyfres o gigs hyrwyddo ar draws Caerdydd, Caernarfon a Llundain. 

Wedi’i recordio’n fyw yn Stiwdio Sain yn Llandwrog a’i gynhyrchu gan Ifan Emlyn, mae’r record wedi derbyn adolygiadau ffafriol gan gyflwynwyr radio sy’n cynnwys Georgia Ruth a Huw Stephens yn ogystal â sylw yng ngholofn ‘Played Cymru: The Best In New Welsh Music’ gan Tom Morgan yng nghylchgrawn CLASH yn ddiweddar. 

Bydd gig olaf ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’ yn digwydd yn Paradise Garden, Caerdydd nos Sadwrn 18 Ionawr gyda’r cynhyrchwyr Sywel Nyw, Tokomololo a Tomos yn troelli’r traciau. 

“Mae tynnu’r albwm a’r prosiect yma at ei gilydd wedi bod yn wych a’n rhywbeth roeddwn i wastad wedi bod eisiau ei wneud” meddai Owain Williams o wefan Klust. 

“Diolch mawr i Sain am ei gwneud hi’n bosib ac am wahodd Klust i guradu casgliad o draciau dwi’n teimlo sy’n cynrychioli Cymru heddiw.”

Bydd ‘Stafell Sbâr Sain: Klust’ allan yn ddigidol o ddydd Gwener 17 Ionawr drwy Recordiau Sain, gyda’r feinyl ar gael i’w archebu nawr o wefan Sain a Klust.