Rhyddhau albwm sioe gerdd gan Hywel Pitts

Mae caneuon sioe gerdd newydd sydd wedi’i ysgrifennu gan gomedïwr a cherddor cyfarwydd wedi eu rhyddhau ar y llwyfannau digidol arferol.

‘Croeso i Baradwys’ ydy enw’r sioe gerdd gan Hywel Pitts ac mae’r caneuon, sy’n cael eu canu gan gast y sioe, wedi eu rhyddhau’n ddigidol ers dydd Gwener diwethaf, 31 Hydref.  

Hon yw’r bedwaredd sioe i gael ei chomisiynu gan Wasanaeth Cerdd Ysgolion Gwynedd a Môn – a’r gyntaf i gynnwys caneuon gwbl wreiddiol. 

Ceir yma straeon a chaneuon sy’n llawn egni, hiwmor ac optimistiaeth, a’r math o alawon bachog a geiriau clyfar mae pobl wedi dod i’w disgwyl gan y digrifwr cerddorol blaenllaw, Hywel Pitts.

Dyma sioe gerdd gyntaf yr awdur, ac roedd mor falch â pherfformiad y cast ifanc, talentog – yr un ohonynt yn hŷn na phymtheg oed – nes y penderfynodd fynd ati i recordio a chynhyrchu’r caneuon i greu albwm.

“Roedd gweld y criw ifanc yn dod â Paradwys yn fyw yn un o brofiadau gorau fy mywyd (hyd yma), ac mi fasai’n gymaint o siom peidio â dogfennu a chyhoeddi’r misoedd o waith a aeth i mewn i ysgrifennu a pherfformio’r sioe” meddai Hywel. 

“Rydw i’n falch iawn o gael y cyfle i’w rhoi ar gof a chadw, ac yn edrych ymlaen yn arw i bobl glywed y stori arallfydol hon yn cael ei chanu gan leisiau’r dyfodol.” 

Mae modd gweld y sioe gerdd yn ei chyfanrwydd ar YouTube, neu gwyliwch isod: