Mari Mathias yn rhyddhau ‘Heuldro’r Gaeaf (Culwch ac Olwen)’

Mae Mari Mathias wedi rhyddhau’r sengl ddiweddaraf o’i EP newydd. 

‘Heuldro’r Gaeaf (Culwch ac Olwen)’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ers Gŵyl San Steffan, 26 Rhagfyr. 

Dyma’r bedwaredd sengl o’r casgliad byr i lanio gan yr artist o Geredigion ac mae’n dilyn yn dynn ar sodlau’r drydedd, sef ‘Aur y Cynhaeaf’ a ryddhawyd ganddi yr wythnos flaenorol ar 20 Rhagfyr. 

‘Awen’ ydy enw’r EP newydd gan y cerddor sy’n cael ei hysbrydoli gan chwedlau a thraddodiadau Cymreig. 

“Ni allaf aros i rannu’r ddwy sengl nesaf hyn a’r siwrnai barhaus o gydweithio ag eraill wrth symud ymlaen fel artist” meddai Mari Mathias am y ddau drac a ryddhawyd ganddi dros gyfnod y Nadolig.  

“Roeddwn i wrth fy modd yn creu gyda’r cerddorion anhygoel yma ac mae pob cân yn cynrychioli rhywbeth hudolus mae’r tymhorau’n dod â nhw… ynom ni’n hunain a’r sibrwd trwy gwreiddiau y coeden Derwen ac wrth gwrs, yr Awen…”

Dywed bod ‘Culwch ac Olwen’ yn deyrnged i’r destun hynafol y Mabinogion a’r modd rydym yn ymgysylltu â hwn heddiw, a hefyd gyda’n tirwedd prydferth a’r bobl sy’n byw yma. 

“Awen – Ffynhonnell ysbrydoliaeth ddwyfol creadigrwydd ac ymwybyddiaeth” eglura Mari wrth drafod yr EP.

“Manteisio ar rywbeth mwy na ni ein hunain a’r gallu i greu rhywbeth sydd wedi’i wreiddio yn y wlad, canu’r adar a’r sêr. Sefyll ar garreg las hynafol Preselis a chysylltu â’n planed a’n straeon trwy dreftadaeth, iaith a diwylliant.”

Bydd yr EP yn cael ei ryddhau ar label annibynnol Mari, Tarian. 

Gadael Ymateb