Sengl Gymraeg Malan yn cyrraedd 50,000 ffrwd

Mae sengl ddiweddaraf Malan, a’i chyntaf yn yr iaith Gymraeg, wedi cael ei ffrydio dros 50,000 o weithiau bellach yn ôl y cerddor.

Dim ond ar ddiwedd mis Hydref y rhyddhawyd ‘Dau Funud’ gan Malan ar label Recordiau Côsh, ac mae’r ffaith bod cymaint wedi gwrando ar y trac eisoes, mewn cwta amser, yn arwydd o boblogrwydd a photensial Malan.

Mae hefyd yn arwydd o’r dilyniant mae wedi’i ennyn yn barod yn dilyn ei chyfres o senglau Saesneg blaenorol.  

Rhyddhawyd ‘Dau Funud’ fel dilyniant i’r EP ‘Bloom’ gan Malan flwyddyn ynghynt. Wedi’i gyd-ysgrifennu a’i gynhyrchu gan Nathan Williams — aml offerynnwr sydd wedi teithio gyda phobl fel Jamiroquai a Steve Winwood — glaniodd ‘Bloom’ ar restr chwarae ‘New Music Friday UK’ Spotify.

Gadael Ymateb