Pioden – Americanwr a’i gerddoriaeth Gymraeg

Mae canwr-gyfansoddwr o America, sydd wedi dysgu Cymraeg, wedi dechrau prosiect cerddorol newydd sy’n ei weld yn ryddhau cerddoriaeth yn yr iaith am y tro cyntaf. 

Mae Joshua Gardener bellach yn byw ym Mangor ac wedi dysgu’r Gymraeg. Enw ei brosiect  newydd ydy Pioden, ac mae wedi bod yn recordio mewn stiwdio ym Miwmares yn ddiweddar gan gyhoeddi demo’s cyntaf Pioden ar ei safle Bandcamp

Mae Joshua’n disgrifio cerddoriaeth Pioden fel ‘folk punk dwyieithog’, ac wedi cyhoeddi demos o dair cân newydd. 

“Ar hyn o bryd, mae gen i ddim ond y demos, ond dwi’n gweithio ar albwm dwyieithog” meddai Joshua. 

“Bydda i recordio ym mis Ionawr, gobeithio wedi gorffen tan ddiwedd o’r mis.”

Yr hyn sy’n rhyfeddol ydy mai dim ond ers dwy flynedd mae Joshua yn dysgu’r Gymraeg. 

“Nes i symud i Gymru a dechrau dysgu Cymraeg dwy flynedd yn ôl, felly dwi ddim wedi cael digon o amser i wneud mwy eto” eglura’r cerddor. 

“Ar hyn o bryd, dwi’n chwarae gigs ar fy mhen fy hun, ond dwi wedi ddechrau ymarfer efo drummer a da ni’n trio put a band together

Dywed mai ei fwriad ydy hunan-ryddhau yr albwm newydd gan nad ydyw’n adnabod unrhyw un ar hyn o bryd, ac mae hefyd yn gobeithio trefnu taith fach dros yr haf yn 2025. 

Dyma un o’r demos, ‘Wedi Blino’:

 

Gadael Ymateb