Mojo yn rhyddhau ‘Nôl yn Dy Freichiau Di’

Mae’r band profiadol MOJO wedi rhyddhau eu sengl newydd . 

‘Nôl Yn Dy Freichia Di’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ar label Recordiau Madryn. 

Cân am bwysigrwydd teulu a chynefin yw sengl newydd y band sy’n perfformio ac yn cyfansoddi ers pedwar degawd. 

“Clip fideo byr o oleuadau ceir yn gwibio heibio a cherddoriaeth yn gyfeiliant, oedd yr egin ysbrydolodd y gân” eglura’r band. 

“Ger Williams anfonodd y clip (i’w gyd-gitarydd) i Bedwyr  Morgan, ac yn syth, daeth atgofion iddo am deithio adre ryw nos wedi  perfformiadau’r band, wrth ddyheu am ben y daith a chwmni’r teulu.”

Bydd y gân yn ymddangos ar albwm newydd MOJO, ‘Hir Oes’, fydd yn cael ei  ryddhau’n gynnar yn y flwyddyn newydd ar label Madryn. 

Roedd y band yn perfformio’n fyw yn ngwesty’r Bull, Llangefni nos Sadwrn diwethaf a bydd cyfleoedd pellach i’w gweld yn fyw yn Nhafarn y Fic, Y Felinheli ar 1 Tachwedd ac yna yng Nghlwb y Bont, Pontypridd ar 8 Tachwedd. 

 

Gadael Ymateb