Mae prosiect cerddorol newydd, Ymylon, wedi rhyddhau sengl gyntaf.
‘Yr Hen Raff’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ar label Recordiau Aran.
Ymylon ydy prosiect newydd y cerddor a chyfansoddwr o Benrhyndeudraeth, JJ Lewis-Roberts.
Bu’r JJ yn astudio Cerddoriaeth Boblogaidd ym Mhrifysgol Leeds rai blynyddoedd yn ôl. Mae wedi bod yn ysgrifennu caneuon ers ychydig dros dair blynedd bellach ac yn edrych ymlaen at ryddhau ‘Yr Hen Raff’.
Mae’r trac wedi ei ysbrydoli gan y gerdd ‘Catrin’ gan Gillian Clarke.
“Mae Clarke yn ysgrifennu am ei merch yn y gerdd” eglura JJ.
“…ond mae’r gân yn ddigon amwys yn fy marn i fel y gallai fod am berthynas ramantus neu am gysylltiadau teuluol, gyda’r rhaff yn rhyw fath o rym sy’n dod â dau berson at ei gilydd, er gwaethaf eu trafferthion.”
Mae elfen werinol yn perthyn i’r prosiect gydag Siwan Evans a Bettina Isaac yn chwarae’r ffidil gan blethu arddulliau mwy amgen a gweadau diddorol gyda’i gilydd.