Morgan Elwy oedd un o’r nifer i nodi Dydd Miwsig Cymru ar 7 Chwefror gyda sengl newydd.
Ac yntau’n gerddor cynhyrchiol iawn dros y blynyddoed ddiwethaf mae Morgan wedi dechrau 2025 wrth ryddhau sengl reggae-rap newydd sbon, ‘Y Rhythm’.
Mae’r trac yn cynnwys perfformiad deinamig Gruff Roberts ar y dryms ac yn gweld Mared Williams yn cyfrannu gyda lleisiau cefndirol ac ar y piano.
Cafodd y trac ei gymysgu gan Luke Evans yn Neuadd Hendre ac mae’n llawn melodïau bachog a harmonïau cyfoethog.