Mae The Gentle Good (sef Gareth Bonello) wedi cynnig blas o’i albwm nesaf wrth gyhoeddi’r sengl ‘Ten Thousand Acres’.
Enw ei albwm newydd ydy ‘Elan’ ac mae’n bortread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy.
Ysgrifennodd Gareth yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth iddo ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria.
Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn anghysbell hwn a gafodd ei foddi i ddarparu dŵr i Firmingham ar ddiwedd yr oes Fictoria.
Awdl i wynebau amrywiol y cwm yw’r ail sengl ‘Ten Thousand Acres’, wrth fyfyrio ar berchnogaeth a’n dirnadaeth o dirwedd dros amser.
Bydd yr albwm allan ar 16 ar Mai, gyda rhagor o senglau i’w rhyddhau dros y misoedd nesaf.