Er mwyn nodi deng mlynedd ers ei albwm a phrosiect aml-gyfrwng, ‘American Interior’, mae Gruff Rhys yn cynllunio mynd â’r sioe ar daith o’r Unol Daleithiau unwaith eto ym mis Ebrill eleni.
Gan olrhain hanes yr anturiaethwr o Gymro, John Evans, wrth iddo deithio ar draws Gogledd America yn y 1790au, rhyddhawyd yr albwm ym Mai 2014. Roedd ‘American Interior’ yn llawer mwy na dim ond record wrth iddo hefyd gyhoeddi llyfr, app i ddyfeisiadau symudol a ffilm wedi’i gynhyrchu gan Dyl Goch i gyd-fynd â’r albwm.
Roedd y cynnyrch amrywiol, ynghyd â sioe fyw gofiadwy Gruff gyda’i gyflwyniad powerpoint, yn arwain cynulleidfaoedd ar daith gydag Evans, wrth iddo geisio darganfod y llwyth o Americanwyr brodorol oedd yn siarad Cymraeg, yn ôl y chwedl.
Bydd y rhai craff yn sylwi ei bod hi mewn gwirionedd yn unarddeg blynedd ers rhyddhau’r albwm, ac mae Gruff yn cydnabod hynny ond yn dweud ei fod wedi rhedeg allan o amser i wireddu ei gynlluniau yn ystod 2024!
Mae’r daith American Interior 2025 yn ymweld â deg o leoliadau yn yr UDA a Chanada rhwng 9 Ebrill a 22 Ebrill. Ond cyn hynny, bydd Gruff yn perfformio’r sioe deirgwaith yn The Sustainable Studio yng Nghaerdydd ar 25, 26 a 27 Mawrth.
Bydd y dyddiadau yn America yn dechrau gyda sioe yn Efrog Newydd ar 9 Ebrill ac yn cloi yn Seattle ar 22 Ebrill. Mae tocynnau’r holl gigs ar werth ers dydd Gwener diwethaf, 31 Ionawr, trwy wefan Gruff Rhys.
Dyddiadau llawn taith American Interior 2025:
9 Ebrill – Efrog Newydd
11 Ebrill – Philadelphia
12 Ebrill – Washington
14 Ebrill – Toronto
15 Ebrill – Ann Arbor
16 Ebrill – Chicago
18 Ebrill – Los Angeles
19 Ebrill – San Francisco
21 Ebrill – Portland
22 Ebrill – Seattle