Mae Mr Phormula yn ôl gyda sengl ddwy-ieithog newydd bwerus sy’n siŵr o ysgwyd systemau sain ar hyd a lled y wlad.
Wedi’i lapio ag egni a chyffro, mae ‘Crocodile Grin’ yn drac sy’n hawlio sylw o’r curiad cyntaf a’n pwysleisio ei fod ymysg rai o’r cynhyrchwyr mwyaf blaenllaw o Gymru ar hyn o bryd.
Mae ‘Crocodile Grin’ yn dwyn dylanwad gan artistiaid fel The Prodigy a Dizzee Rascal, gan asio curiadau trydanol gyda geiriau miniog, di-ddal-yn-ôl.
Ond y tu hwnt i’r wal o sŵn, mae’r trac yn cario neges ddyfnach sy’n ymdrin â’r byd natur a’r problemau a ddaw o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl: