Elidyr Glyn yn westai ar sengl newydd Ciwb

Mae’r siwpyr-grwp o’r gogledd, Ciwb, wedi rhyddhau eu sengl newydd ynghyd ag addewid o albwm i ddilyn yn fuan. 

‘Diwedd y Gân’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf, ac yn nhraddodiad y band maen nhw’n croesawu gwestai arbennig, sef Elidyr Glyn o’r band Bwncath, i berfformio ar y trac.  

Daeth Ciwb, sy’n cynnwys yr aelodau craidd Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, i amlygrwydd nôl yn 2021 tua diwedd y cyfnod clo gyda’u fersiynau newydd o ganeuon poblogaidd. 

Rhyddhawyd ‘Smo Fi Ishe Mynd’ (Edward H Dafis) gan y band a Malan ac yna eu halbwm cyntaf, ‘Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?’, yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Dyma albwm yn llawn trefniannau newydd o glasuron apelgar a ryddhawyd gan Sain ar hyd y degawdau, gyda chyfraniadau gan nifer o artistiaid amlwg y sîn – Mared Williams, Rhys Gwynfor, Alys Williams, Osian Huw Williams, Iwan Fôn, Heledd Watkins, Joseff Owen, Lily Beau a Dafydd Owain. 

Daeth sengl arall, ‘America’, yn 2022, gydag Elan Rhys, ac yna ‘Laura’, gyda Iwan Huws yn ymuno efo’r band. 

Wedi rhywfaint o seibiant, bellach mae Ciwb bron a gorffen eu hail albwm a fydd eto’n llawn caneuon o’r archif ar eu newydd wedd a rhes o artistiaid o fri yn ymuno gyda’r band i roi gwedd newydd ar hen ffefrynnau. 

Mae ‘Diwedd y Gân’, yn cynnwys llais unigryw Elidyr Glyn, cyfaill i’r band, a dyma’r gyntaf o ganeuon yr albwm newydd i gael ei rhyddhau i’r byd. Cafodd y gân ei chyfansoddi gan Emyr Huws Jones ac fe’i recordiwyd yn wreiddiol gan Bryn Fôn ar ei albwm ‘Dyddiau Di-gymar’, yn 1994. 

“Roedden ni wedi bwriadu gneud rhywbeth efo’r gân yma ar yr albwm cynta’ ond doedd ’na ddim amser”, meddai Elis. 

“…mae’n braf gallu gneud rhywbeth o’r diwedd a hynny efo ffrind da i ni, sef Elidyr.” 

Mae haf prysur o flaen Ciwb, a bydd gig arbennig iawn i ddathlu rhyddhau’r albwm newydd yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, ar 12 Gorffennaf, fel rhan o Gŵyl Arall.