Mae’r prosiect electronig Crwban wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘BE DI BE’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 20 Mehefin.
Crwban ydy prosiect newydd y cerddor Math Llwyd sy’n gyfarwydd fel gitarydd y band Y Reu.
Bellach wedi ei troi ei sylw at fod yn gynhyrchydd a DJ, mae Math wedi perffeithio’i grefft yn ddiweddar – yn cynnig traciau o’r safon uchaf drwy label HOSC.
Mae ‘BE DI BE’ yn ddilyniant i’r senglau ‘Ni’ a ‘Crwbsteppa’ sydd wedi glanio ers dechrau’r flwyddyn eleni.
Ag yntau gynt yn aelod o Y Reu, mae Math yn hen law ar berfformio fel rhan o fand, ond bellach mae wedi derbyn yr her o chwarae ei gerddoriaeth newydd ar ben ei hun.
Yn ddiweddar, mae Crwban wedi chwarae sioeau yng Nghaerdydd a Llundain ac yn edrych ymlaen at fynd â’r tiwns Drum’n’bass / Jungle Cymraeg i fwy o dorfeydd dros yr haf a thu hwnt.