Mae’r band ifanc newydd o Sir Benfro, Dewin, yn ôl gyda’u hail sengl, sydd allan ar label Fflach Cymunedol.
Mae ‘Gad Hi Fynd’ yn gân serch sy’n adrodd stori dyn ifanc yn cwympo mewn cariad gyda ffigwr dychmygol, cyn sylweddoli bod mwy i fywyd.
Bydd trac allan ar y llwyfannau digidol arferol ers dydd Gwener 20 Mehefin, tra bod y band yn paratoi at gigs yr haf cyn claddu eu hunain mewn stiwdio i weithio ar eu halbwm cyntaf.
Mae Dewin, sef prosiect y pianydd a’r cyfansoddwr Jencyn Corp, a brenin y theramin a’r cerddor amryddawn, Lefi Dafydd, wedi denu cryn dipyn o sylw yn ddiweddar ar ôl rhyddhau eu sengl gyntaf ‘Syched Cas’ ym Mawrth 2025.
Mae slotiau yng Nghwobrau’r Selar, Gŵyl Fel ‘Na Mai a Tafwyl wedi dilyn. Mae’r band sy’n disgrifio eu cerddoriaeth fel ‘wizard-pop’ yn cael eu dylanwadu gan gerddoriaeth jazz, corawl, pop, gwerin, disgo, a phopeth yn y canol.
“Tra bod ‘Syched Cas’ yn alwad hyderus i’r byd i ymuno yn yr hwyl ac i sgipio’n llon allan i’r awyr iach, mae ‘Gad Hi Fynd’ yn fewnblyg ac ansicr” meddai’r band am eu sengl ddiweddaraf.
“Nid oes llwybr syth ymlaen i ganfod y dderwen hudolus a synhwyrus sy’n sefyll yn gysgodol dros ‘Syched Cas’, does dim posib mynd ‘i lan i lan i lan’, dim ond i lawr i mewn ddrysfa’r ymennydd wrth i ansicrwydd godi o ran beth sydd wirioneddol yn wir, beth sydd yn ffantasi pur. Mae’n hawdd cael eich llethu gan bopeth.
“Ond, mae dihangfa – unwaith eto, y borfa las sydd o’n hamgylch. Rhaid agor ein llygaid a byw i’r eithaf yn y byd hynod hwn sydd yn ein cynnwys ni oll.”
Mae’r sengl wedi ei chynhyrchu gan Reuben Wilsdon-Amos ac yn cynnwys Dylan Sanders Swales, a gwaith gitâr Mefin Hughes o’r band Lafant.