Mae EP cyntaf yr artist electronig, Osgled, wedi’i ryddhau ar label BWGiBWGAN.
Tes yr Haul ydy enw’r record fer newydd.
Prosiect cerddorol y gantores a’r gyfansoddwraig, Bethan Ruth, yw Osgled ac mae’n cyfuno haenau atmosfferig gyda’i llais swynol arbrofol.
Ar draws pum trac hypnotig a chynnes yr EP, mae Osgled yn creu tirwedd sonig fywiog – wedi’i weu at ei gilydd gan ddŵr, golau, a rhythmau naturiol canolbarth Cymru.
“Ro’n i eisiau creu byd y gallech chi ddrifftio drwyddo – fel cerdded i mewn i ddŵr cynnes, a’ch llygaid ar gau yn erbyn tes yr haul” eglura Bethan Ruth.
“Mae’r sain wreiddiol freuddwydiol hon ar gyfer unrhyw un sy’n caru arnofio rhwng bydoedd. Plymiwch i mewn a gadewch iddo gymylu’r ymylon.”
Gan gyfuno gweadau synth esmwyth â recordiadau maes a churiadau cynnil, mae ‘Tes yr Haul’ yn llifo rhwng electronica meddal a churiadau emosiynol – y trac sain berffaith i foreau arfordirol niwlog.
Un o uchafbwyntiau’r EP yw, ‘Paid â Deud’, sy’n cynnwys llais mam-gu Osgled, Buddug Lloyd Roberts, gan blethu atgofion teuluol i haenau disglair y prosiect. Rhyddhawyd y trac wythnos yn gynharach fel sengl a thamaid i aros pryd nes yr EP.
Fel cyfanwaith, mae ‘Tes yr Haul’ yn llwyddo i sianelu tirlun nodedig Machynlleth yn drac sain breuddwydiol, atmosfferig ac arbrofol.
Dyma un o draciau eraill y casgliad, ‘Fenws’: