Sengl newydd Geraint Rhys

Mae’r canwr-gyfansoddwr o Abertwae, Geraint Rhys, wedi rhyddhau ei sengl Saesneg newydd.

‘I Belong to You’ ydy enw’r cynnyrch cyntaf ers dwy flynedd gan Geraint Rhys ar ôl iddo gymryd cyfnod o saib.

Mae’r trac yn trafod y rhyddhad a’r hapusrwydd arbennig a ddaw wrth syrthio mewn cariad, o’r diwedd.

Gyda geiriau tyner ac alaw sy’n treiddio’r isymwybod, mae ‘I Belong to You’ yn crynhoi taith emosiynol sy’n ymestyn o amheuaeth ac unigrwydd i gariad a hapusrwydd. 

“Mae hon yn gân am y teimlad arbennig yna o ryddhad, pan fyddwch chi o’r diwedd yn syrthio mewn cariad â rhywun ar ôl meddwl na allech chi” meddai Geraint.

“Mae’r trac yn ein hatgoffa y gall y byd fod yn lle optimistaidd a gobeithiol er gwaetha’r heriau bob dydd.”