Mae’r ddeuawd amgen o Fae Colwyn, Hap a Damwain, wedi datgelu y byddan nhw’n rhyddhau record hir newydd ym mis Ionawr.
Hap a Damwain ydy prosiect diweddaraf y cerddorion profiadol Simon Beech ac Aled Roberts ac fe wnaethon nhw ryddhau cyfres o senglau yn ystod 2024.
Y diweddaraf o’r senglau hyn oedd ‘Deutsche Post’ a laniodd ar ddechrau mis Hydref. Roedd ‘Pibellau’ sef eu sengl o fis Chwefror 2024, yn rhif 5 ‘Siart Amgen’ Rhys Mwyn ar ei raglen BBC Radio Cymru cyn y Nadolig.
Mae Hap a Damwain hefyd wedi agor siop gynnyrch yn ddiweddar ar eu safle Bandcamp, ac yn gwerthu crysau T amrywiol yno.
‘Diwedd Hanes’ fydd enw’r albwm newydd ganddynt, ac fe fydd yn cael ei ryddhau ar 17 Ionawr.