Popeth yn ennill gwobr AIM

Mae Popeth, sef prosiect ‘pop positif’ y cerddor profiadol Ynyr Roberts, wedi  ennill gwobr am gerddoriaeth annibynnol yng Ngwobrau AIM 2025

Daeth Ynyr yn fuddugol yng Ngwobrau AIM, yr “alternative Brit awards” ar gyfer labeli ac artistiaid annibynnol” yn Llundain nos Fawrth, 23 Medi. 

Enillodd wobr yng nghategori’r artist annibynnol newydd sydd wedi cael ei chwarae fwyaf ar radio a theledu.

“Roedd derbyn yr enwebiad ar gyfer Gwobr AIM yn golygu gymaint i mi, ar y cam cynnar hwn o daith Popeth” meddai Ynyr. 

“Mae cael y clod o ennill y wobr wedyn yn hollol anhygoel! Dwi’n gobeithio y bydd y sylw wedi mi gipio’r wobr yn creu cyfleoedd ar gyfer mwy o gydweithio a chyfansoddi cerddoriaeth newydd gyffrous yn y dyfodol.”

Mae Popeth yn rhyddhau cerddoriaeth ar label Côsh, sy’n cael ei redeg gan Ywain Gwynedd. 

“Artist sy’n cynhyrchu alawon pop bachog ydi Popeth” eglura Ywain. 

“Mae’r rhan fwyaf o’r caneuon wedi rhoi cyfleoedd i artistiaid newydd ganu a serennu ar y traciau, gan ddefnyddio’r gân fel sylfaen i ddechrau gyrfa eu hunain fel artistiaid unigol. 

“Mae’r ethos hwn o gydweithio, a rhoi cyfle i artistiaid eraill i leisio’r caneuon, wedi gwneud Popeth yn artist difyr i’w dilyn – rydyn ni’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd nesa!”

Eleni oedd yr ail waith i Popeth dderbyn enwebiad yn y wobr ar ôl cyrraedd y rhestr flwyddyn yn ôl yn 2024. 

Ymysg yr enwebiadau Gwobrau AIM 2025 roedd artistiaid fel Bon Iver, Fontaines D.C., Chloe Qisha, Ezra Collective a Wet Leg, ac roedd y seremoni yn cael ei chynnal yn y Roundhouse, Camden, Llundain ar nos Fawrth 23 Medi.

Un o senglau diweddaraf Popeth ydy ‘Calon Neon’ gyda Bendigaydfran: