Rhyddhau albwm Ani Glass

Mae Ani Glass wedi rhyddhau ei halbwm newydd – ‘Phantasmagoria’ ydy’r enw ar ail albwm unigol yr artist pop-electronig o Gaerdydd. 

Daw’r albwm ar gefn senglau i roi blas o’r albwm dros yr haf gan gynnwys y teitl-drac a ryddhawyd ym mis Gorffennaf, a’r gân ‘Acwariwm’ a ryddhawyd ddechrau mis Medi

Mae’r albwm newydd yn ddilyniant i record hir gyntaf Ani Glass, sef Mirores, a ryddhawyd ar ddechrau 2020, jyst cyn y cyfnod clo.

Yn fuan ar ôl rhyddhau ‘Mirores’ cafodd yr artist o Gaerdydd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd anfalaen prin. Roedd y diagnosis yn ddechrau ar daith bersonol i Ani sydd wedi siapio ei halbwm newydd, albwm cysyniadol mewnsyllgar sy’n plymio’n ddwfn i’w phrofiad o ffeindio ei ffordd trwy fywyd gyda’r diagnosis. 

Mae’r albwm yn un aml-ieithog ac yn cynnwys geiriau yn y Gymraeg, yn y Gernyweg ac mewn Saesneg. Mae Ani hefyd yn plethu ychydig o BSL (iaith arwyddo) i’w pherfformiadau byw. 

Mae  ‘Phantasmagoria’ yn tynnu ynghyd yr ieithoedd a chyfryngau amrywiol sydd gan Ani at ei defnydd er mwyn adlewyrchu cyfnod arwyddocaol yn ei bywyd. 

Mae’r albwm yn adlais o waith cynnar y band Goldfrapp ynghyd â Madonna ac Enya. 

Fel y byddai unrhyw un sy’n gyfarwydd â gwaith Ani’n disgwyl, mae’r albwm yn gasgliad o gerddoriaeth pop dyfodolaidd a diddorol. 

Fel rhan o ymdrechion hyrwyddo’r albwm mae Ani wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs dros yr wythnosau nesaf. 

Roedd gig lansio yng Nghaerdydd nos Wener diwethaf ar y dyddiad rhyddhau, gyda gig yn The Social, Llundain ar nos Sul 28 Medi. Bydd gigs pellach yn dilyn yng Nghaerfyrddin, Aberystwyth, Wrecsam ac Abertawe wedi hynny. 

Manylion gigs hyrwyddo ‘Phantasmagoria’: 

03 Hydref – Cwrw, Carmarthen 

10 Hydref – Cŵps, Aberystwyth 

24 Hydref – Tŷ Pawb, Wrexham

07 Hydref – Tŷ Tawe, Swansea

Dyma fideo ‘Acwariwm’: