Bydd llais cyfarwydd o’r 1990au yn dychwelyd gyda cherddoriaeth newydd ei phrosiect unigol ar ddiwedd mis Chwefror.
‘Amser’ ydy enw’r EP newydd gan Rhian Jorj sydd allan ar 28 Chwefror.
Roedd Rhian yn aelod o’r band ‘UST’ yn y 90au, sy’n fwyaf cyfarwydd am eu cân ‘Breuddwyd’ sy’n dal i gael ei chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi. Roedd hefyd yn aelod o’r band Amledd gyda’i gŵr, y feiolinydd amlwg Billy Thompson, gan ryddhau’r albwm ‘Cyfnod Cyntaf’ yn 2006.
Ers hynny rhoddodd y gerddoriaeth i’r naill ochr nes iddi gael ei hysgogi i fynd ati i gyfansoddi eto ar ôl cael diagnosis o glefyd Addison ym Mhasg 2023.
“Bum yn sâl iawn yn yr ysbyty a dyma oedd wedi bod arnaf ers cyfnod hir” eglura Rhian.
“Nid yw’n hawdd darganfod y clefyd yma mae’n un o’r clefydau prin sy’n bodoli. ’Lwcus iawn o feddygfa y Bala – ac rwy’n ddiolchgar iawn i Dr Owain Edwards a wnaeth roi y diagnosis i mi.
“Yn yr ysbyty meddyliais am lot o bethau. Un ohonynt oedd beth fuaswn yn hoffi ei wneud pan yn well ac un o’r pethau mwyaf oedd mynd nôl i fyd y cyfansoddi a chanu.
“Felly mae wedi bod yn ddwy flynedd bron ers gwybod bod gennyf y clefyd Addison ac ‘rwyf wedi cael cyfnod o ddygymod, cryfhau a chyfansoddi.”
Gwneud y mwyaf o heddiw
Canlyniad y gwaith cyfansoddi yma ydy’r EP ‘Amser’ ac mae addewid am gynnyrch pellach i ddilyn sef albwm dan yr enw ‘Ysgafn’.
Tri thrac sydd ar ‘Amser’, gan gynnwys y gân sy’n rhannu enw’r EP sy’n sôn am brofiad Rhian gyda chlefyd Addison.
“Collais andros o lot o bwysau ac roeddwn yn teimlo fy mod yn diflannu ac yn colli gafael ar realiti” meddai.
“Neges y gân hefyd ydi bod… “Amser yn pasio heibio” ac ein bod oll yn gwneud cynlluniau a meddwl am bethau yr hoffem ei wneud ac yna deg ‘mlynedd yn ddiweddarach yn meddwl sut mae amser wedi hedfan a’r cynlluniau heb eu cyflawni.
“Hoffwn bwysleisio nad cân drist nac hunan dosturiol yw hi ond un sy’n dweud stori o’r digwyddiadau ac sy’n fy atgoffa bod rhaid gwneud y mwyaf o heddiw.”
Disgleirio mewn gwahanol ffyrdd
A hithau’n byw yn ardal Y Bala, mae ‘Cân Llyn Tegid’ yn cyfeirio at nodwedd amlycaf yr ardal, a llyn naturiol mwyaf Cymru.
Dywed Rhian mai ei dymuniad mwyaf yn ystod ei chyfnod yn yr ysbyty oedd i gerdded at Lyn Tegid, gan sylweddoli pa mor bwysig oedd y lleoliad iddi pan ddaeth y cyfle o’r diwedd i wneud hynny.
“Roedd yn deimlad o orfoledd pur a rhyddhad i gyrraedd yno a hynny ddim ond can ‘llath o’r tŷ. Nid oeddwn yn teimlo yn hyderus iawn ac yn simsan ar fy nhraed ond roedd gweld y llyn yn rhoi hwb ac yn tawelu fy meddwl ar yr un pryd.”
‘Disgleiria’ ydy enw’r trydydd trac ar y casgliad byr, a dywed Rhian ei bod yn gân sy’n arbrofi’n fwy gyda thechnegau cerddorol o ran sain.
“Nes i gyfansoddi hon mewn tua awr gan deimlo ei fod wedi dod ata’i yn ei gyfanwaith gan fy ‘mod yn medru clywed sut yr oedd am swnio yn ei chyfanrwydd. Y neges yn syml ydi bod pob un ohonom yn disgleirio mewn gwahanol ffordd a’i fod yn bwysig fod pawb yn cael y cyfleoedd, arweiniad a chefnogaeth i wneud hynny.”
Gŵr Rhian, Billy Thompson, sydd wedi cynhyrchu a chymysgu’r caneuon yn eu stiwdio cartref ac mae’r EP allan ar label annibynnol Thompsound Music.
Bydd cyfle i weld Rhian Jorj yn perfformio’n fyw gyda’i band yn Theatr Derek Williams fel rhan o Noson Lawen Dydd Gŵyl Dewi ar y 27 Chwefror.