Sister Wives yn ôl gyda sengl newydd

Mae’r pedwarawd o Sheffield, Sister Wives, yn ôl gyda’u sengl ddiweddaraf sydd allan ar label Recordiau Libertino.

‘Malady’ ydy enw’r trac newydd, a dyma gerddoriaeth newydd cyntaf Sister Wives ers rhyddhau albwm ‘Y Gawres’ â enwebwyd ar gyfer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2022.

Yn ymdrin â hanes ffeministaidd trwy chwedloniaeth a thirwedd, mae Sister Wives yn gweu straeon trawiadol wrth blethu’r Gymraeg a’r Saesneg. 

Mae caneuon y band yn cylchdroi o gwmpas disgwyliadau ac anghyfiawnderau cyfnewidiol. Yn ôl y band, “mae ‘Malady’ yn gân sy’n ymwneud â sefyll yn gadarn dros ddynion drwg y byd.