Bydd y rapiwr toreithiog Mr Phormula yn rhyddhau ei sengl newydd ar ddydd Gwener 25 Ionawr.
‘Oi!’ ydy enw’r trac diweddaraf i lanio gan y rapiwr, cynhyrchydd a bîtbocsiwr o fri, a bydd yn cael ei ryddhau ar ei label ei hun, Mr Phormula Records.
Mae ‘Oi!’ yn gosod y safon yn uchel ar gyfer 2025 i Mr Phormula, ac yn ffrwydro gyda chyffro gan hawlio sylw’r gwrandawr o’r ergyd gyntaf. Mae ‘Oi!’ yn dystolaeth pellach i statws lled-chwedlonnol Mr Phormula yn y diwydiant hip-hop Cymraeg.
Gyda’i eiriau miniog, a’r cynhyrchiad trydanol sy’n sicr o danio cynulleidfaoedd, mae’r trac yn siŵr o wneud i systemau PA y wlad grynu. Yn feiddgar, pwerus, ac yn nodweddiadol o waith Mr Phormula, nid dim ond cân ydy ‘Oi!’ ond mae hefyd yn ddatganiad yn ôl yr artist.