Carneddi ydy enw’r albwm unigol cyntaf gan y bardd a’r cerddor Iestyn Tyne sydd allan ar label Recordiau Cadnant.
Mae’r record yn gasgliad cysyniadol sy’n ymateb i ffotograff eiconig Geoff Charles o Carneddog a Catrin Griffith pan oeddent ar fin ymadael â’u fferm fynyddig uwchlaw pentref Nantmor yn Eryri, yn dilyn darganfod corff eu mab, Hywel Wyn, wedi’i foddi yn Llyn Dinas, yr ochr draw i Foel y Dyniewyd.
Argraffwyd y llun hwnnw o’r hen gwpl yn edrych allan dros y tir garw ar glawr blaen Y Cymro dan y pennawd ‘Rwy’n Edrych Dros y Bryniau Pell’, a daeth trwy hynny i gynrychioli rhywbeth mwy na hanes trist Carneddog a Catrin eu hunain; sef dirywiad a diflaniad ffordd o fyw, iaith, a diwylliant gwerin gwledig Cymru, wrth i deulu di-Gymraeg o Lundain brynu’r erwau y bu Carneddog a’i dylwyth yn eu hamaethu ers canrifoedd.
Wedi’i recordio’n fyw dros dridiau yn Stiwdio Sain, Llandwrog, mae’r casgliad yn cyfuno alawon ffidil yn y traddodiad Cymreig a chyfansoddiadau newydd, geiriau gwreiddiol a rhai gan Carneddog a’i gyfoeswyr, emyn donau a barddoniaeth lafar.
Yn ymuno â Iestyn mae’r cerddorion amryddawn Gwilym Bowen Rhys, Gwenan Gibbard a Simmy Singh, gydag Aled Wyn Hughes yn cynhyrchu.
Dyma drac agoriadol y casgliad, ‘Beddgelert’.