Sengl newydd Taran

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mai. 

‘Gobaith’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau JigCal. 

Mae Taran wedi bod yn chwarae ‘Gobaith’ yn fyw am dros flwyddyn bellach, gyda’r gân yn gorffen setiau’r band mewn ffordd gofiadwy. 

Yn sicr, dyma un o hoff ganeuon y band i’w chwarae ac mae wastad yn llenwi’r dorf ag egni. Mae’r dryms cadarn, gitars llawn a’r lleisiau pwerus yn dod â’r gân at ei gilydd, gyda’r geiriau emosiynol yn darparu’r dyfnder.

Ar ôl llwyddiant Rose Datta, canwr Taran, ar raglen Y Llais ar S4C yn ddiweddar, mae ei phrofiadau wedi dod â syniadau creadigol newydd i’r band. 

Mae’r grŵp wedi bod yn brysur yn recordio gyda Mei Gwynedd dros y misoedd diwethaf, gyda mwy o gerddoriaeth i ddod yn fuan. Bydd yr haf yn un prysur i Taran wrth iddynt chwarae Tafwyl, MaesB a Phrif Lwyfan yr Eisteddfod ymhlith llawer o gigs eraill i’w cyhoeddi.

 

 

Gadael Ymateb