Mae’r band Ciwb wedi rhyddhau’r ail sengl oddi ar eu halbwm newydd.
‘Pan fo Cyrff yn Cwrdd’ ydy enw’r cyfyr diweddaraf gan y grŵp sydd wedi dod i amlygrwydd diolch i’w fersiynau o ganeuon pobl eraill.
Wrth ryddhau’r sengl newydd maent hefyd wedi cyhoeddi y bydd albwm nesaf y band allan ar 20 Mehefin.
Mae ‘Pan fo Cyrff yn Cwrdd’, gydag Eban Elwy yn canu, yn fersiwn newydd o’r gân enwog gan Y Trwynau Coch, a ryddhawyd yn wreiddiol yn 1981. Fel pob un o drefniannau newydd Ciwb, mae’r fersiwn yn talu teyrnged i’r artist gwreiddiol gan roi bywyd o’r newydd i hen ffefryn.
Dyma’r ail sengl oddi ar albwm newydd y band, yn dilyn ‘Diwedd y Gân’, gydag Elidyr Glyn yn westai, a ryddhawyd fis dwytha.
Mae’r albwm newydd, ‘Gad Mi Ddod Mewn’, yn ffrwyth llafur blwyddyn gron, ac aelodau’r band, Elis Derby, Gethin Griffiths, Marged Gwenllian a Carwyn Williams, wedi cydweithio eto gyda nifer o gantorion amlwg y sîn gerddoriaeth yng Nghymru i greu cyfyrs newydd sbon o ganeuon o archif label Sain.
Llwyth o westeion arbennig
Rhyddhawyd albwm cyntaf y band, ‘Wyt Ti’n Meddwl Bod o Wedi Darfod?’, yn 2021 gyda chyfraniadau gan nifer o artistiaid amlwg fel Mared Williams, Rhys Gwynfor, Alys Williams, Osian Huw Williams, Iwan Fôn, Heledd Watkins, Joseff Owen, Lily Beau a Dafydd Owain.
Mae’r albwm newydd yn cynnwys rhestr arall o enwau cyffrous, sef Ifan Davies, Buddug, Magi, Ifan Pritchard, Hollie Singer, Lisa Jên, Griff Lynch ac artistiaid y ddwy sengl, Elidyr Glyn ac Eban Elwy.
Gyda fersiynau newydd o ganeuon artistiaid fel Sidan, Steve Eaves, Y Cyrff, Llwybr Cyhoeddus, Mojo, Angylion Stanli, Heather Jones ac Edward H, mae’n gymysgfa o gerddoriaeth bop, roc meddal, a seicadelia, ac yn fwy eang o ran arddulliau cerddorol na’r albwm cyntaf, a phob cyfyr yn cael triniaeth unigryw gan amlygu elfennau gwreiddiol y caneuon ond gyda talp enfawr o wreiddioldeb cerddorol Ciwb.
Bydd lansiad swyddogol yr albwm yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, ar 12 Gorffennaf, fel rhan o Gŵyl Arall, lle bydd Ciwb yn gwneud perfformiad arbennig gyda cherddorion gwadd ac elfennau gweledol a ffilm hefyd yn rhan o’r digwyddiad.
Bydd hwn gyfle i glywed setiau byw gan artistiaid gwadd yr albwm a pherfformiad arbennig o ganeuon y casgliad newydd gan Ciwb a’u cyfeillion. Bydd cyfle hefyd i glywed y band ar Lwyfan y Maes, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ddydd Sadwrn, 1 Awst.
Llun: Dafydd Hughes