Rhyddhau albwm Don Leisure

Ar ôl cynnig ambell sengl fel blas, mae’r cynhyrchydd a cherddor amlwg, Don Leisure, yn barod i fentro ymhellach i’r byd gwerin-seicadelig Cymraeg wrth ryddhau ei albwm newydd. 

Tyrchu Sain ydy enw’r casgliad hir sydd allan ar label Recordiau Sain .

Caiff y cerddor, Don Leisure, ei gydnabod fel un o’r cynhyrchwyr a’r arbenigwyr bît mwyaf arbrofol a mentrus yn yr ecosystem gerddorol gyfredol. Mae’n un hanner o’r ddeuawd Darkhouse Family (gyda Earl Jeffers) ac mae wedi cydweithio gydag artistiaid megis Angel Bat Dawid, Gruff Rhys, DJ Spinna a’i gyd-gerddorion ar label First world, Amanda Whiting a Tyler Dayley (Children of Zeus). 

Dros y blynyddoedd casglodd Don wybodaeth drylwyr a helaeth am gerddoriaeth o bob math o genres ac is-ddiwylliannau, yn arbennig felly cerddoriaeth werin seicadelig yn y Gymraeg a ryddhawyd yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Dechreuodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth Cymru pan gyflwynodd y cerddor a’r cynhyrchydd Andy Votel y casgliad aml-gyfrannog ‘Welsh Rarebeat’ iddo – casgliad a ddetholwyd gan Votel, ar y cyd gyda Gruff Rhys a Don Thomas, o blith ôl-gatalog Sain, ac a ryddhawyd gyntaf yn 2005.

Erbyn hyn Sain yw’r label recordio annibynnol hynaf yng Nghymru ac mae’n parhau i ryddhau cerddoriaeth o bob math gan rai o artistiaid cerddorol mwyaf blaenllaw y wlad. 

Digido archif Sain

Dros y flwyddyn a aeth heibio mae’r label wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig, ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddigido’r holl archif. Bydd yr archif, sy’n cwmpasu 55 mlynedd o recordiau, yn cael ei diogelu mewn fformat digidol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. 

Bu’r prosiect digido yn gyfnod o ail-ddarganfod a gwerthfawrogi o’r newydd ac fel rhan o hyn gwahoddwyd Don Leisure i dyrchu yn yr archif werthfawr i greu ffrwydrad o dapestri sonig o’r hen recordiau llychlyd.

“Dychmygwch rhywun yn rhoi caniatad i chi bori mewn archif o dros 50 mlynedd o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg – y cyfan bron yn ddiethr i chi” meddai un o gyd-sylfaenwyr y label, Dafydd Iwan.  

“Mi fyddai’n brofiad rhyfedd, yn sicr, rhyw dir newydd, estron ac eto’n llawn cynnwrf. Dyma ddigwyddodd i Jamal (Don Leisure) – a chafodd ei gyfareddu gan fyd o gerddoriaeth na wyddai amdano o’r blaen, a phan ofynwyd iddo greu albwm wedi ei seilio ar y profiad, derbyniodd yn syth. 

“A dyma’r canlyniad – record o synau lliwgar i groniclo hanner canrif o gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n albwm hollol arbennig ac unigryw, albym na allai neb ond Don Leisure ei gyflawni. Gwrandewch a mwynhewch.”

Y canlyniad ydy ‘Tyrchu Sain’, albwm sy’n dal dim yn ôl ac yn archwilio heb ffiniau, ac albwm sy’n caniatáu i Don roi ei stamp annisgwyl ei hunan ar gyfansoddiadau gwych ac arallfydol. 

Gwesteion amrywiol

Mae’r record yn cynnwys cyfraniadau gan artistiaid eraill o Gymru sy’n rhannu diddordeb Don Leisure yng ngherddoriaeth Cymru’r cyfnod a fu, gan gynnwys Gruff Rhys, Carwyn Ellis, Earl Jeffers, Amanda Whiting a Boy Azooga.

Rhyddhawyd y sengl gyntaf, ‘Cynnau Tân’, ym mis Tachwedd ac mae’n cynnwys cyfraniadau lleisiol gan Carwyn Ellis, sef un o’r lleisiau mwyaf diddorol ar y sîn gerddoriaeth yng Nghymru heddiw, yn ôl Don, ac un a gydweithiodd yn ddiweddar gyda Coco Maria fel rhan o’i brosiect Rio 18. 

“Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Don eto, yn arbennig gan ei fod o wedi cyfrannu i albym diweddaraf Rio 18” meddai Carwyn am y cydweithio rhwng y ddau.  

“Mae ei ddiddordeb obsesiynol a’i wybodaeth am hen recordiau Cymraeg yn gwbl anhygoel!” 

Un arall a gyfrannodd i’r albwm yw Jessy Allen, gyda’i llais hudolus yn amlwg ar y trac cyntaf, ‘Y Dechrau’. 

“Mae albwm Don yn berl go iawn, sy’n parchu ac yn dathlu’r gorffennol ac yn cadarnhau ac yn arwain sain cerddoriaeth Gymreig y dyfodol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw i bawb gael ei glywed” meddai Jessy. 

Yn gwrlid Cymreig o sain, mae ‘Tyrchu Sain’ yn croesi ffiniau rhwng gwerin acid, alawon sy’n cyffwrdd yr enaid a synau arallfydol, a’r cyfan yn cael ei yrru gan guriadau a gweadau anelwig. Gan roi bywyd newydd i gyfansoddiadau’r gorffennol dyma albwm fydd yn agor y drws i wrandawyr newydd gael darganfod hud a swyn ein cerddoriaeth.  

Dyddiadau byw Don Leisure:

28.02 – Parti Lansio, Paradise Garden, Caerdydd 

01.03 – Parti Lansio, Cwrw, Caerfyrddin 

08.03 – Storiel Bangor gyda Dafydd Iwan

Dyma’r trac ‘Tyrchu’ gyda Gruff Rhys yn westai: