Gorwel Owen yn derbyn gwobr Cyfraniad Arbennig Y Selar

Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai’r cerddor a chynhyrchydd arloesol, Gorwel Owen, ydy enillydd gwobr Cyfraniad Arbennig Gwobrau’r Selar eleni. 

Datgelwyd y newyddion gan Huw Stephens ar ei raglen BBC Radio Cymru ar nos Iau 27 Chwefror, ddeuddydd cyn cynnal noson Wobrau’r Selar yn Aberystwyth ar nos Sadwrn 1 Mawrth. 

Wrth dderbyn y wobr mae Gorwel yn dilyn llinach hir o fawrion y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg sydd wedi ennill y teitl. Pat a Dave o’r band Datblygu oedd enillwyr cyntaf y wobr yn 2016, ac ers hynny mae Geraint Jarman (2017), Heather Jones (2018), Mark Roberts a Paul Jones (2019), Gruff Rhys (2020), Gwenno (2021), Tecwyn Ifan (2022), Lisa Gwilym (2023) a Gai Toms (2024) i gyd wedi derbyn yr anrhydedd. 

Gŵr gwylaidd a diymhongar

“Mae’r wobr Cyfraniad Arbennig yn aml wedi’i rhoi i artistiaid sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg dros nifer o flynyddoedd” eglura Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar. 

“Mae enillydd eleni wedi gwneud cyfraniad enfawr, nid yn unig fel cerddor, ond hefyd, ac efallai’n fwy arwyddocaol fe ellir dadlau, fel cynhyrchydd.

“Boed fel cerddor neu gynhyrchydd mae wedi arloesi’n aruthrol dros y blynyddoedd, gan ddangos mentergarwch mewn sawl ystyr, a bod yn rhan allweddol o nifer o’r recordiau pwysicaf i ddod o Gymru erioed.

“Mae hefyd yn parhau’n weithgar fel artist, ac rydym ar ddeall bod cerddoriaeth newydd ar y gweill ganddo, gyda bwriad o ryddhau’n fuan, ac mae’r hirhoedledd yma’n un o’r ffactorau pwysig i ni wrth ystyried y wobr hon. 

“Dwi’n siŵr y byddai sawl un wedi clywed cyfraniad Gorwel i’r ffilm ddogfen Ffa Coffi Pawb a ddarlledwyd ar S4C dros y Nadolig ac yn ymwybodol iawn o ba mor ganolog yr oedd i’r symudiad hwnnw a alwyd gan y cyfryngau yn ‘Cŵl Cymru’. Mae Gorwel yn ŵr gwylaidd a diymhongar dros ben, ac mae’n bwysig felly ein bod yn manteisio ar y cyfle i dalu teyrnged iddo.”

“Cymuned ydy’r byd cerddoriaeth”

Daeth Gorwel i’r amlwg gyntaf ar ddechrau’r 1980au fel aelod o’r bandiau ‘Sgidia Newydd ac yna Plant Bach Ofnus ac Eirin Peryglys gan arloesi gydag arddulliau cerddoriaeth electroneg yn y Gymraeg. 

Erbyn hyn roedd hefyd yn recordio ac yn cynhyrchu cynnyrch rhai o artistiaid amlycaf Cymru hefyd gan gynnwys Datblygu, Tynal Tywyll, Ffa Coffi Pawb a Beganifs. Penllanw hyn oedd mynd ymlaen i weithio ar recordiau Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci a Melys – rhai o’r bandiau oedd yng nghanol cyffro’r cyfnod hwnnw a welodd nifer o fandiau Cymreig yn gwneud marc yn fyd eang. Ef oedd cynhyrchydd Mwng gan y Super Furry Animals, sef yr albwm Cymraeg sydd wedi gwerthu’r mwyaf o gopïau erioed ac mae wedi gweithio gyda Gruff Rhys ac Euros Childs ar eu cynnyrch unigol. 

“Diolch yn fawr iawn Y Selar am hwn” meddai Gorwel Owen wrth ymateb i’r newyddion am y wobr. 

“Dwi wedi bod yn ffodus i weithio efo nifer o artistiaid arbennig dros y blynyddoedd, ond hoffwn gydnabod hefyd, y nifer fawr o bobol sydd wedi gwneud cyfraniadau arbennig drwy drefnu gigs, trefnu bysus i gigs, rhoi liffts i grwpiau, dod â bwyd i’r stiwdios, plygu a gliwio cloriau records (neu beth bynnag sy’n debyg yn yr 21g), rhedeg labeli, rheoli grwpiau, creu rhaglenni radio a theledu, sgwennu erthyglau a chyhoeddi cylchgronau, a llwyth o bethau eraill. 

“Cymuned ydi’r byd cerddoriaeth Gymraeg, a dwi’n ddiolchfawr iawn o fod wedi cael y cyfle i chwarae fy rhan yn y gymuned yma.”

Dyma’r trac anhygoel, ‘Gwastraff’, gan Plant Bach Ofnus: