Mae’r cerddor gwerin gweithgar, Gwilym Bowen Rhys, wedi rhyddhau ei albwm newydd ers dydd Llun 20 Ionawr.
Aden ydy enw’r pumed albwm unigol i’w ryddhau gan y canwr gwerin o Fethel, ger Caernarfon.
Yn gyfuniad o gyfansoddiadau gwreiddiol a chaneuon traddodiadol gyda dylanwadau gwerin, bluegrass a baróc, mae Aden yn dynodi’r cam nesaf yng ngyrfa Gwilym.
Yn ymuno â Gwilym ar yr albwm mae Gwen Màiri (telyn / telyn deires / harmoniwm), Patrick Rimes (ffidil, fiola, harmoniwm, trombôn), Ailsa Mair (Viola da Gamba), Will Pound (harmonica, melodeon) ac Aled Wyn Hughes (bas dwbwl).
Recordiwyd y casgliad yn Stiwdio Sain, Llandwrog gydag Aled Wyn Hughes yn gynhyrchydd.
Rhoi bywyd newydd i alawon Cymraeg hynafol
Mae Gwilym Bowen Rhys wedi sefydlu ei hun fel llysgennad teilwng dros y Gymraeg a chanu gwerin, gartref yng Nghymru ac ar draws y byd hefyd. Cafodd hyn ei gadarnhau gan ei enwebiad ar gyfer Gwobr Canwr Gwerin y Flwyddyn yng Ngwobrau Gwerin BBC Radio 2 a thrwy ennill Gwobr yr Artist Unigol Gorau yng Ngwobrau Gwerin Cymru.
Gan berfformio o Aberystwyth i’r Ariannin, mae wedi cynrychioli Cymru a’r Gymraeg mewn perfformiadau ym Mharis, yr Eisteddfod Genedlaethol, a gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gan hefyd gydweithio gyda’r cerddor amryddawn o Sbaen Carlos Núñez.
Mae ei gerddoriaeth, sy’n dod â geiriau ac alawon Cymraeg hynafol yn fyw, yn unigryw o ganlyniad i’w ddull cerddorol cyfoes ei hun. Rhyddhawyd ei albwm cyntaf ‘O Groth y Ddaear’ yn 2016 a chyrhaeddodd restr fer Albwm Gorau’r Flwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gan helpu i’w sefydlu fel llais newydd a hanfodol ar gyfer cerddoriaeth o Gymru.
Cafodd ei bedwaredd albwm, ‘Detholiad o Hen Faledi II’ (2022) ei ddisgrifio gan flog From The Margins fel, ‘probably the most complete, bewitching folk album you will hear all year’.
Er mwyn hyrwyddo’r casgliad newydd, bydd Gwilym yn mynd â’r albwm ar daith dros fisoedd Ionawr a Chwefror fel rhan o Gylchdaith y Mentrau’r Iaith a PYST.
Dyma’r trac ‘Gwn Dafydd Ifan’ o’r albwm newydd: