Gruff Rhys yn cydweithio gyda Don Leisure

Mae’r cerddor a’r cynhyrchydd adnabyddus, Don Leisure, wedi cyd-weithio gydag un o gerddorion amlycaf Cymru, Gruff Rhys ar ei sengl ddiweddaraf. 

‘Tyrchu’ ydy enw’r cynnig diweddaraf gan y cynhyrchydd o Gaerdydd ac mae’n mentro i’r byd gwerin-seicadelig Cymraeg, wrth iddo blymio i archif label Recordiau sain wrth weithio ar ei LP newydd, ‘Tyrchu Sain’. 

Caiff Don Leisure ei gydnabod fel un o’r cynhyrchwyr ac arbenigwyr bît mwyaf arbrofol a mentrus yn yr ecosystem gerddorol gyfredol. 

Mae’n un hanner o’r ddeuawd Darkhouse Family gydag Earl Jeffers, ac mae wedi cydweithio gydag artistiaid megis Angel Bat Dawid, Gruff Rhys, DJ Spinna a’i gyd-gerddorion ar label First world, Amanda Whiting a Tyler Dayley (Children of Zeus).

Mae hefyd wedi derbyn cefnogaeth a chlod gan Lauren Laverne, Tom Ravenscroft, Huw Stephens, Gilles Peterson, Huey Morgan, The Vinyl Factory, Clash, Uncut ac eraill. 

Blas pellach o’r albwm

Yn dilyn rhyddhau’r sengl ‘Cynnau Tân (feat. Carwyn Ellis)’, mae Don Leisure yn cyhoeddi rhyddhau albwm newydd, ‘Tyrchu Sain’ wrth iddo hefyd ryddhau sengl newydd o’r albwm. 

Mae ‘Tyrchu’ yn cynnwys lleisio mwyn a chynnil Gruff Rhys dros rannau offerynnol hamddenol, gan greu, yng ngeiriau Gruff, “trysorau bît newydd a gloyw yn adlewyrchu ysbrydion pop y gorffennol, wedi eu tyrchu yn ofalus ac yn greadigol o wythiennau label Sain.”

Dros y blynyddoedd casglodd Don wybodaeth drylwyr a helaeth am gerddoriaeth o bob math o genres ac isddiwylliannau, yn arbennig felly cerddoriaeth werin seicadelig yn y Gymraeg a ryddhawyd yn ail hanner yr 20fed ganrif. 

Dechreuodd ei ddiddordeb yng ngherddoriaeth Cymru pan gyflwynodd y cerddor a’r cynhyrchydd cydnabyddedig, Andy Votel, y casgliad aml-gyfrannog ‘Welsh Rarebeat’ iddo – casgliad a ddetholwyd gan Votel, ar y cyd â Gruff Rhys a Don Thomas, o blith ôl-gatalog Sain, ac a ryddhawyd gyntaf yn 2005.

Erbyn hyn Sain yw’r label recordio annibynnol hynaf yng Nghymru ac mae’n parhau i ryddhau cerddoriaeth o bob math gan rai o artistiaid cerddorol mwyaf blaenllaw y wlad. Wedi sefydlu yng Nghaerdydd recordiwyd nifer o deitlau cynnar Sain yn Stiwdio Rockfield yn Sir Fynwy, ond symudodd y cwmni i ardal Caernarfon ar ddechrau’r 1970au gan agor Stiwdio Gwernafalau yn Llandwrog yn 1974, cyn symud i lawr y lôn i stiwdio newydd sbon yn 1980, yng Nghanolfan Sain.

Dros y flwyddyn a aeth heibio mae’r label wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig, ar y cyd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i ddigido’r holl archif. Bydd yr archif, sy’n cwmpasu 55 mlynedd o recordiau, yn cael ei diogelu mewn fformat digidol ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod. 

Bu’r prosiect digido yn gyfnod o ail-ddarganfod a gwerthfawrogi o’r newydd ac fel rhan o hyn gwahoddwyd Don Leisure i dyrchu yn yr archif werthfawr i greu ffrwydriad o dapestri sonig o’r hen recordiau llychlyd.

“Dychmygwch rhywun yn rhoi caniatâd i chi bori mewn archif o dros 50 mlynedd o gerddoriaeth boblogaidd Gymraeg – y cyfan bron yn ddiethr i chi” meddai un o gyd-sylfaenwyr y label, Dafydd Iwan.  

“Mi fyddai’n brofiad rhyfedd, yn sicr, rhyw dir newydd, estron ac eto’n llawn cynnwrf.

“Dyma ddigwyddodd i Jamal (Don Leisure) – a chafodd ei gyfareddu gan fyd o gerddoriaeth na wyddai amdano o’r blaen, a phan ofynnwyd iddo greu albwm wedi ei seilio ar y profiad, derbyniodd yn syth. 

“A dyma’r canlyniad – record o synau lliwgar i groniclo hanner canrif o gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n albwm hollol arbennig ac unigryw, albwm na allai neb ond Don Leisure ei gyflawni. Gwrandewch a mwynhewch.”  

Gadael Ymateb