Pleidlais Gwobrau’r Selar wedi cau – tocynnau gig ar werth

Ydy, mae’r bleidlais gyhoeddus i ddewis enillwyr Gwobrau’r Selar 2024 wedi cau’n glep neithiwr, 22 Ionawr.

Dros y bythefnos ddiwethaf mae cannoedd wedi bwrw pleidlais dros y 9 categori sy’n cael eu dewis gan y cyhoedd.

Y cam nesaf fydd datgelu’r rhestrau byr eleni, sef y 3 ddaeth i’r brig yn y bleidlais ym mhob categori. Byddwn ni’n datgelu y rhain yn wythnosol rhwng hyn a phenwythnos y gwobrau ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd.

Yna, bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi’n fyw yn noson Wobrau’r Selar fydd yn dychwelyd eleni ar 1 Mawrth, gyda gig arbennig yn Arad Goch, Aberystwyth.

Mae tocynnau’r gig ar werth nawr am bris cyntaf i’r felin arbennig o ddim ond £15, a bydd y lein-yp yn cael eu gyhoeddi’n fuan iawn – cadwch olwg ar gyfryngau Y Selar am y newyddion diweddaraf!

Cliciwch y llun Gwobrau’r Selar isod i archebu eich tocynnau

 

 

 

Gadael Ymateb