Lansio podlediad newydd Albyms Arloesol

Mae podlediad cerddoriaeth Gymraeg newydd wedi’i lansio sy’n anelu at fynd o dan groen rhai o’r recordiau Cymraeg mwyaf eiconig a dylanwadu. 

Cyn-gynhyrchiad rhwng Y Selar a golwg360 ydy podlediad ‘Albyms Arloesol’ ac mae’r bennod gyntaf, a gyhoeddwyd ar y llwyfannau podledu arferol ar ddydd Gwener 14 Chwefror, yn rhoi sylw arbennig i albwm Deuddeg gan Sywel Nyw. 

Golygydd cylchgrawn Y Selar, Gruffudd ab Owain, sy’n llywio’r drafodaeth ar y podlediadau, ac yn bennod gyntaf mae’n sgwrsio gyda Daisy Williams o Wrecsam sy’n ffan mawr o’r albwm. 

“Y nod ar y podlediadau ydy rhoi llwyfan ar gyfer lleisiau newydd i drafod cerddoriaeth Gymraeg gyfoes” eglura Gruffudd ab Owain. 

“Wrth wneud hynny, byddwn yn eu holi beth sy’n gwneud y albyms yma mor bwysig yn eu tyb nhw, a pham ei bod nhw’n eu gweld nhw fel recordiau arloesol. Mae cyfle wedyn i’r artistiaid eu hunain ymateb i hyn ar ddiwedd y penodau, ac rydan ni’n clywed barn Sywel Nyw, sef y cerddor Lewys Wyn, ar y bennod gyntaf.

“Dwi’n credu bod y math yma o bodlediad yn amserol ar hyn o bryd mewn cyfnod lle mae ffrydio wedi dod mor bwysig i gerddoraeth, a bod cymaint o bwyslais ar ganeuon unigol. Ond mae’n arwyddocaol bod pobl yn dal i gyhoeddi recordiau hir, ac mae hynny’n wir iawn yn y Gymraeg hefyd. Efallai bod hynny’n ddatganiad o werth yr albwm fel darn o gelf, fel cyfanwaith, ac mae’n bwysig ein bod ni’n dathlu hynny.”

Mae’r bennod gyntaf o ‘Albyms Arloesol’ ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho ar y llwyfannau podledu arferol nawr. Cynhyrchwyd y bennod gan Aled ‘Y Pod Jones’. Gall unrhyw un sy’n awyddus i enwebu albwm arloesol eu hunain, a chyfrannu at y gyfres, wneud hynny trwy ebostio Y Selar – yselar@live.co.uk 

Dyma’r bennod gyntaf: