Mae’r triawd o Gaerfyrddin, Adwaith, wedi rhyddhau eu trydydd albwm, Solas gyda noson lansio mawreddog yng Nghaerfyrddin i nodi’r achysur.
A hwythau eisoes wedi ennill teitl y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ddwywaith gyda’u dau albwm cyntaf – yr unig fand neu artist i wneud hynny hyd yma – does dim dal nôl ar eu record hir ddiweddaraf gan fod Solas’yn albwm dwbl sy’n cynnwys 23 o draciau i gyd.
‘Solas’ ydy’r gair Celtaidd am ‘goleuedigaeth’ neu ‘oleuni bod’ ac mae’n garreg filltir amlwg yn nhaith y band. A hwythau wedi recordio mewn lleoliadau amrywiol sy’n cynnwys na h-Eileanan Siar (Outer Hebides) yn Yr Alban, Lisbon ym Mhortiwgal ac amryw stiwdios yng Nghymru, mae’r record yn adlewyrchu datblygiad ac esblygiad Adwaith fel artistiaid.
Mae’r casgliad diweddaraf yn cwblhau trioleg ‘dod i oed’ Adwaith sydd wedi gweld y band yn tyfu o’u harddegau i fod yn fenywod grymus, gan archwilio themâu o ddarganfyddiad, dianc a gwydnwch.
Darganfod y cartref

A hwythau wedi ffurfio yng Nghaerfyrddin ddeng mlynedd yn ôl, mae’r syniad o ‘gartref’ wastad wedi llifo trwy gerddoriaeth Adwaith, hyd yn oed wrth iddynt awchu i gael dianc ohono.
Wedi eu hysbrydoli gan fandiau Cymraeg a berfformiodd yn y lleoliad lleol, The Parrot, yn wreiddiol roedd y band yn awyddus i ddianc o dref eu magwraeth i ddechrau, ond mae ‘Solas’ yn cynrychioli’r bennod olaf yn esblygiad y band sydd wedi eu gweld yn teithio’r byd cyn dychwelyd nôl i brydferthwch Gorllewin Cymru.
Mae’r record hir ddiweddaraf yn ddilyniant i’r albwm ‘Melyn’ a ryddhawyd yn 2018, ac yna ‘Bato Mato’ yn 2022 oedd wedi’i ysbrydoli gan daith y band ar y rheilffordd traws-Siberia enwog.
Mae Solas yn archwiliad amrwd ond dyrchafol o hunan ddarganfyddiad.
“Mae am ddarganfod y cartref, y gofod diogel yna, tu mewn i chi” eglura prif ganwr Adwaith, Hollie Singer.
Yn gerddorol, mae’r albwm newydd yn symud i ffwrdd o ddylanwadau ôl-bync cynharach y grŵp, gan dynnu’n fwy ar ddiddordebau cerddorol ehangach y triawd. Mae dylanwadau allweddol yr albwm yn cynnwys roc oriog The Cure, rhythmau avant-garde Lizzy Mercier Descloux, blŵs nomadaidd Gorllewin Affrica, gwerin seicadelig Jessica Pratt, pop amgen arbrofol Björk a rhythmau arloesol CAN.
Y Gymraeg yn ganolog
Mae’r prosiect yn garreg filltir i’r grŵp, ac mae’r iaith Gymraeg yn ganolog i’r cyfan unwaith eto, fel yr eglura’r basydd Gwenllian Anthony.

“Mae’r defnydd o’r Gymraeg trwy Solas yn teimo’n naturiol, yn onest ac yn angenrheidiol” meddai Gwenllian.

“Roeddem am i’r gwrandawyr i deimlo rhywbeth greddfol ac emosiynol yn y gerddoriaeth, boed nhw’n deall pob gair neu beidio. Yn yr un modd ac y mae’r geiriau’n dweud stori, mae gan y gerddoriaeth ei hun ffordd o siarad, un rydym yn gobeithio fydd yn cysylltu gyda phobl ar lefel emosiynol ddofn.”
Mae ‘Solas’ yn torri tir newydd pellach gan mai dyma’r albwm dwbl iaith Gymraeg cyntaf gan fand benywaidd, gan ddangos yr hyder sy’n llifo trwy wythiennau Adwaith.
Lluniau: Aled Llywelyn