Dewin a Danny Sioned yn cipio gwobrau coffa Ail Symudiad

Y band ifanc o Sir Benfro, Dewin, a’r artist unigol Danny Sioned oedd enillwyr Gwobrau Coffa Ail Symudiad eleni. 

Fel rhan o’u gwobr, bydd cyfle arbennig i weld Dewin yn agor noson Wobrau’r Selar yn Arad Goch, Aberystwyth ar 1 Mawrth.

Cynhaliwyd noson Gwobrau Coffa Ail Symudiad yng Nghanolfan Hermon ar nos Wener 14 Chwefror a chafwyd perfformiadau gan y cystadleuwyr oedd yn brwydro am y ddau deitl. 

Dyma’r drydedd gwaith i’r gwobrau coffa gael eu cynnal er cof am Richard a Wyn Jones, sylfaenwyr y band Ail Symudiad a label Recordiau Fflach. Am y tro cyntaf eleni hefyd roedd ail wobr, sef Gwobr Kevin, ar gyfer artistiaid unigol yn unig, sydd er cof am Kevin Davies oedd hefyd yn aelod allweddol o dîm Fflach. 

Hefyd am y tro cyntaf eleni, roedd y gystadleuaeth wedi ei ehangu i artistiaid o Gymru gyfan, yn hytrach na dim ond Sir Gâr, Sir Benfro a Cheredigion fel y bu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Dewin-bop o Benfro

Jencyn, enigma’r band Dewin

Y band ifanc o Benfro, Dewin, gipiodd deitl Gwobr Richard a Wyn y tro hwn mewn cystadleuaeth o safon uchel yn ôl y trefnwyr, sef Gŵyl Fel ‘na Mai. 

Wedi eu disgrifio fel “wizard-pop o fynyddoedd hudol y Preseli”, Dewin ydy prosiect y cyfansoddwyr a’r aml-offerynwyr Jencyn Corp, Lefi Dafydd, a’u ffrindiau. Mae deuoliaeth i’w caneuon: yn llawn offeryniaeth cymhleth, llinellau bachog, ond yn cuddio cwestiynau a sylwadau dwys am sefyllfa’r byd o’u perspectif nhw.

Yn dod i’r brig yn y gystadleuaeth am Wobr Kevin oedd yr artist cerddorol o Bontarddulais, Danny Sioned. 

Fel rhan o’r gwobrau, bydd cyfle i weld y ddau artist buddugol yn perfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai a gynhelir yng Nghrymych ar 3 Mai eleni. 

Bydd cyfle hefyd cyn hynny i weld Dewin yn perfformio yn noson Wobrau’r Selar fel rhan o’u gwobr hwy am gipio teitl Richard a Wyn. Bydd Gwobrau’r Selar eleni yng nghanolfan Arad Goch yn Aberystwyth ar nos Sadwrn 1 Mawrth ac mae modd archebu tocynnau nawr

Dewin yn hudoli ar y llwyfan

Beirniaid y Gwobrau Coffa eleni oedd meibion Richard, sef Dafydd ac Osian Jones, ynghyd ag Einir Dafydd a Rhodri John. 

“Sŵn llawn, aelodau cerddorol tu hwnt yn chwarae’n dynn gyda’i gilydd” meddai un o’r beirniaid a merch Kevin, Einir Dafydd, am Dewin.
“Cordiau jazz a chaneuon bachog sydd dal i aros yn y côf. Ni’n dymuno pob lwc i Dewin ar gyfer y dyfodol ac yn edrych ymlaen yn arbennig at ei perfformiad nhw yng Ngŵyl Fel na Mai.
“Dewch i’w gweld i gael cyfle i glywed set hirach ganddyn nhw. Dwi’n edrych ymlaen at gael y “Dewin experience” nesaf!”
Yr enillwyr – Dewin a Danny Sioned – gyda’r trefnwyr a beirniaid

Safon uchel

Roedd trefnwyr y gwobrau coffa, a Gŵyl Fel ‘Na Mai hefyd, wedi eu synnu gan safon y gystadleuaeth eleni.
“Am Noson! Ces sioc o’r ochr orau gyda safon pob un wnaeth gystadlu a bydde ni’n ddim wedi ishe bod yn esgidiau’r beirniaid o ddewis enillwyr” meddai Dafydd Vaughan, un o drefnwyr Gŵyl Fel ’Na Mai a’r Noson Goffa.
“Dewin – be allai weud? – Waw!!  Hollol boncyrs ond nes i reli fwynhau nhw ma rhaid gweud.
“Band llawn cerddorion talentog; arddull ‘wizard-pop’ unigryw sydd heb ‘i weld o’r blaen, a chaneuon bachog llawn melodïau ‘catchy’.
“Yn sicr gallaf ddweud fod ‘Dewin’ wir wedi hudoli ar y llwyfan ac yn wir haeddu dod i’r brig mewn cystadleuaeth o safon. Dwi’n edrych mlaen i weld nhw eto gan ddymuno pob lwc iddynt i’r dyfodol.”
“Braf cael dweud fod dyfodol disglair i lawer o fandiau ac artistiaid newydd i’r sin ac yn edrych ymlaen at weld ei datblygiad yn y misoedd a blynyddoedd sydd i ddod.”
Roedd Einir Dafydd yn cytuno ei bod hi’n noson arbennig.
“I fi, hon oedd y noson goffa orau hyd yma! Roedd pob artist a band yn wych. Ambell un yn fwy profiadol na’i gilydd ac o bosib yn barod am her nos Wener ond pob un yn unigryw.
“Roedd hi’n wych cael cymaint o bobl yn cystadlu o bell ac agos sy’n dangos bod y gystadleuaeth yn mynd o nerth i nerth. Anodd iawn odd dewis enillwyr a gallai mwy nag un fod wedi ennill hefyd!
Dewin gyda’u Gwobr

“Daeth Dewin â rhywbeth arbennig i’r noson. Roedd e’n fwy na pherfformiad rhywsut, roedd e’n ‘brofiad’!”

Mae’r adroddiadau o’r noson am berfformiad Dewin yn sicr wedi’n cyffroi ni ynglŷn â’r cyfle i weld Dewin yn perfformio ar noson Gwobrau’r Selar – byddan nhw ar y llwyfan am 18:15 felly dewch yn gynnar i’w dal nhw da chi!

Y newyddion da pellach ydy y bydd sengl gyntaf Dewin, ‘Syched Cas’, yn cael ei rhyddhau ar label Fflach Cymunedol ar 7 Mawrth eleni.