Mae’r cynhyrchydd electronig o Ogledd Cymru, Foel, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf.
‘Ogof / Melltydd’ ydy enw’r sengl ddwbl newydd sydd allan yn ddigidol.
Traciau offerynnol ydy rhain wrth i Foel arddangos ei arddull gerddorol am y tro cyntaf.
“Wrth i alaw ‘Ogof’ bylu, mae’r ddaear yn symud a drymiau tannau’n torri trwodd cyn ildio i ffrwydriad olaf o ffync gwaith traed” meddai’r cerddor am brif drac y sengl.
“Mae gan yr ochr-B, ‘Melltydd, yn losgiad arafach – golygfa wledig anghysurus sy’n cael ei llethu’n raddol wrth i beiriant crychlyd, cleciog gynhyrchu rholiau nerthol o daranau.”
Mae Foel yn brosiect cerddoriaeth electronig, heb eiriau, ond mae’r cerddor yn gweld Cymru a’r Gymraeg fel rhan hanfodol o’r peth.
Mae Foel wedi treulio llawer o amser yn crwydro ardaloedd gwyllt Gogledd Cymru, ac erbyn hyn yn rhannu ei anturiaethau gyda’i wraig a dau o blant.
Ceir amrywiaeth o gerddoriaeth finimalaidd i electronig gwyllt gan Foel, gyda thrawsnewidiadau graddol a defnydd o ofod sy’n adlewyrchu’r dirwedd leol. Yn ôl y cerddor mae ei gerddoriaeth wedi ei helpu i ddelio gyda phrofiadau anodd ei blentyndod, gan ddod ag elfen o dywyllwch ac weithiau dicter i’w waith.