Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau ei sengl diweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr.
‘Marae’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ar label Recordiau Bubblewrap.
Wedi’i recordio yn Auckland, Seland Newydd, mae’r trac yn cynnwys yr artistiaid Māori Mārei a Rob Ruha yn ogystal â’r cynhyrchydd, Kings, ac yn plethu’r Gymraeg a’r iaith Māori.
“Nôl ym mis Mawrth 2024, fues i’n ddigon ffodus i fod yn rhan o brosiect cydweithredol gyda Te Reo Māori ac artistiaid cyfrwng Cymraeg draw yn Auckland, Aotearoa. Roedd yn brofiad anhygoel, un a fyddai’n aros gyda mi am byth” eglura Carwyn.
“Roedd y croeso ges i a fy ffrindiau o Gymru yn wirioneddol arbennig. Cawsom ein derbyn yn ffurfiol mewn Marae, tŷ sanctaidd gymunedol wedi’i addurno â cherfluniau hardd. Yno, cawsom gyfarfod â’n teulu newydd am y tro cyntaf – a thrafod ein hieithoedd a’n diwylliannau gwahanol. Roedd yn ddiwrnod hyfryd, llawn chwerthin a chanu.
“Roeddwn i eisiau canu am y profiad! Felly yn ystod y sesiwn Songhubs a ddilynodd, dyna’n union wnes i – gyda chymorth fy ffrindiau newydd Mārei (Mareikura Nathan) a Rob Ruha a Kings yn cynhyrchu.
“Rwy’n falch iawn o’r canlyniad – rwyf wrth fy modd yn cydweithio ag artistiaid o ddiwylliannau eraill.”