Hap a Damwain yn croesawu Diwedd Hanes

Mae Hap a Damwain, sef y band amgen ac arbrofol o Fae Colwyn, wedi rhyddhau eu halbwm newydd dan yr enw Diwedd Hanes. 

Yn ôl y ddwuawd, mae’r enw’n un priodol iawn wrth i’w hardal wynebu problem gyda diffyg dŵr dros yr wythnos ddiwethaf. 

Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf). Ar ôl i’r grŵp hwnnw ail-ffurfio i berfformio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst, 2019, penderfynodd y ddau i ddod ynghyd eto i ddechrau prosiect cerddorol newydd. Maent wedi bod yn weithgar iawn ers hynny gan ryddhau caneuon yn rheolaidd ar eu safle Bandcamp. 

Mae’r albwm 14 trac newydd allan yn ddigidol ar Bandcamp, ond mae hefyd ar gael ar ffurf CD.

Yn ôl y ddeuawd, recordiwyd y traciau dros sawl nos Fercher yn fflat Aled ym Mae Colwyn.

“Mae’r teitl ‘Diwedd Hanes yn dod o’r angst esistential ma Damwain yn byw efo” eglura Hap a Damwain. 

“Oedd Hanes yn digwydd mor sydyn weithiau oedd hi’n teimlo fel ras rhwng ‘Diwedd Hanes’ a’r Diwedd Hanes mawr tywyll. Yn lwcus nath y CD gipio’r ras, er nath y peth dŵr ddigwydd!”

“Ni’n hapus iawn gyda’r albwm, sydd â nifer o steils [cerddoriaeth] gwahanol – bach o electroneg, hip-hop a roc ‘n rol yn naturiol.

“Oedd ‘Pibellau’ [trac 14 ar y casgliad] yn rhif 5 yn ‘Siart Amgen Rhys Mwyn’ eleni. Cân am Damwain yn gweld adlewyrchiad ei dad yn y drych ar ôl tyfu barf ydy hon.”

Mae’r albwm yn cynnwys gwestai arbennig ar un o’r traciau sef Darren Fox, sy’n ymddangos ar y gân ‘Luigi neu Mario’. Daw Darren yn wreiddiol o Lerpwl, ond mae wedi dysgu Cymraeg trwy fod yn ffan o’r band Datblygu.

Dyma’r teitl drac: