Mae’r artist o Ddyffryn Teifi, Cate Le Bon, wedi rhyddhau ei sengl newydd wrth ddatgelu y bydd albwm yn dilyn ganddi ym mis Medi eleni.
‘Heaven is No Feeling’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ganddi ers dydd Gwener diwethaf, 6 Mehefin.
Bydd ei record hir diweddaraf yn dilyn ar 26 Medi dan yr enw ‘Michelangelo Dying’. Mae’r trac wedi’i gynhyrchu gan Cate ei hun ar y cyd gyda Samur Khouja.
Bydd Le Bon hefyd yn mynd ar daith dros fisoedd yr hydref ac yna eto ym mis Ionawr. Bydd mis Hydref yn ei gweld yn perfformio mewn nifer o leoliadau yn y DU, cyn iddi fentro i chwarae cyfres o gigs ym Ewrop yn ystod mis Tachwedd.
Bydd gigs hyrwyddo’r albwm yn parhau fis Ionawr wrth iddi deithio i UDA gan berfformio 14 o gigs yno.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer y gigs ym Mhrydain bellach, ynghyd a rhag archebu’r albwm.
Mae fideo ar gyfer y sengl newydd hefyd wedi’i gyhoeddi ar YouTube, neu gwyliwch isod