Sengl Ddwbl gan Melda Lois

Mae’r artist o ardal Y Bala, Melda Lois, wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd. 

‘Am Eiliad’ / O’r Ddwy Lan’ ydy enw’r traciau newydd ganddi sydd allan ar label recordiau I KA CHING.

Yn ôl y label mae teimlad Hydrefol, golau’r gwyll a chau’r cyrtens i ‘Am Eiliad’ / O’r Ddwy Lan’, a dylanwad sgwennwyr-gyfansoddwyr y 70au yn drwm arnynt.

Ysgrifennwyd ‘Am Eiliad’ ar gwrs ysgrifennu yng Nghanolfan Tŷ Newydd, Hydref 2024, o dan arweiniad Georgia Ruth a Carwyn Ellis. Yr her oedd ’sgwennu cân am yr Hydref, a dyma’r canlyniad. 

“Ma’r gân am ddal yn dynn i eiliadau olaf yr hydref a golau’r haul cyn i’r gaeaf gyrraedd,” meddai Lois. 

“Mae hi am dderbyn bod y newid mewn tymhorau yn ein newid ni ’fyd. A phan ddaw’r misoedd byrion, y gallwn ni suddo i’r teimlad cynnes o swatio, lapio mewn côt gynnes a mynd allan i’r awyr iach cyn i’r glaw a’r oerni gyrraedd.”

Fersiwn Gymraeg o gân Joni Mitchell

Cyfieithiad yw ‘O’r Ddwy Lan’ o’r anfarwol ‘Both Sides, Now’ gan Joni Mitchell. Er bod Lois wedi bod yn ei pherfformio ers dros ddwy flynedd, mae’n debyg iddi gymryd tipyn o amser i drefnu’r hawlfraint a phenderfynu sut yn union i recordio’r fath glasur.

“Fel ‘Am Eiliad’ ma’r gân mewn tuning open ‘D’, fel defnyddiwyd gan Joni Mitchell,” eglura Lois. 

“Dros ginio yn Sain, aeth Ifan, Osian (Candelas) a finne allan at y bwrdd picnic a gwrando ar ddwy fersiwn fwyaf adnabyddus o’r gân – y fersiwn fwy acwstig a ryddhawyd ddiwedd y 60au, a’r fersiwn o’r albwm o’r un enw yn 2000 hefo’r gerddorfa.

“Y canlyniad ydi cyfuniad o arddull y ddau recordiad – gitârs cynnes oedd yn nodweddiadol o’r 70au, ac yna adeiladu sŵn y gerddorfa yn raddol, diolch i drefniant hyfryd hyfryd Osh sy’n deyrnged berffaith i’r fersiwn 2000. 

“Nathoni recordio fi’n chwarae hi fingerstyle ben fy hun gyntaf; cyn i Osh a fi recordio haenau gitâr ychwanegol tete a tete – Osh ar 12 string a finne ar 6.”

Nid yn unig fod y tiwnio a chynhesrwydd y sain yn clymu’r ddwy gân, mae’r themâu yn eu plethu hefyd. Mae’r ddwy yn trafod ceisio derbyn bodoli ymysg y deuoliaethau, y ffiniau a’r newidiadau sy’n rhannau annatod o fywyd. 

Gweithiodd Melda Lois gydag Ifan Jones yn Stiwdio Sain unwaith eto wrth recordio’r sengl ddwbl, gan wahodd Osian Huw fel cyd-gerddor; y tri yn ffrindiau bore oes.

Bydd fideo, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos PYST x S4C, yn cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r sengl-ddwbwl a bydd rhagor o ganeuon o sesiynau Melda Lois yn Sain ar y ffordd yn 2026. 

Dyma ‘O’r Ddwy Lan’: