Mae Griff Lynch wedi datgelu ei fod yn paratoi i ryddhau ei albwm cyntaf a fydd allan ym mis Hydref eleni.
Wrth wneud hynny, mae hefyd wedi rhyddhau sengl newydd fel tamaid i aros pryd, a hynny gyda gwestai arbennig, sef neb llai na chanwr a gitarydd y Manic Street Prechers, James Dean Bradfield.
‘Same Old Show’ ydy enw’r sengl newydd sydd allan ers 2 Gorffennaf ar label Lwcus T.
Hir yw pob ymaros; a hir y bu’r aros am albwm cyntaf y cerddor a’r cyfarwyddwr, Griff Lynch. Wedi bygwth rhyddhau casgliad o ganeuon ers tro, enw albwm unigol cyntaf prif leisydd Yr Ods fydd ‘Blas Melysa’r Mis’ a bydd yn glanio ar 10 Hydref.
Cawl o straeon byrion
Daw ‘Same Old Show’ yn dilyn dwy sengl ffres a ryddhawyd gan Griff y llynedd, sef ‘Ti Sy’n Troi’ gyda Lleuwen a’r pryfglust ‘Kombucha’ cyn hynny.
Yn ôl Griff mae’r record hir “yn gawl o straeon byrion sy’n plethu sawl pennod ynghyd — y chwerw a’r melys, y da a’r drwg”.
Ag yntau’n barod i ddadorchuddio’r traciau yn eu tro, ‘Same Old Show’ yw rhagflas diweddaraf y casgliad ac mae’n gweld neb llai na phrif leisydd a gitarydd Manics yn canu yn y Gymraeg am y tro cyntaf.
“Doedd gen i wir ddim syniad ei (James) fod yn dysgu Cymraeg pan anfonais i’r trac draw ato fo” egluara Griff.
“Ges i, fel sawl un arall, yn magu ar y Manics felly mae ei gael o’n rhan o’r albwm yn fraint anhygoel”.
‘Symud’ yn ganolog
Wedi’i ysgrifennu dros gyfnod o bum mlynedd, mae ‘Blas Melysa’r Mis’ yn wibdaith o’r dwys i’r tyner a’n plethu’r daith droellog honno ar draws un ar ddeg cyffordd wahanol.
“Mae symud neu, y syniad o symud yn rhan weddol ganolog i’r holl gysyniad,” meddai Griff am yr albwm.
“Ar adegau, mae’n hiraethu am ddiwrnodau llonydd y cyfnod clo tra ar draciau eraill, mae’n dathlu’r eiliadau prin hynny lle mae llawenydd yn toddi’r ysfa i chwilio am rywbeth neu rywle gwell,” ychwanega.
Y dewin Owain Llwyd ddaeth â threfniannau llinynnol yr albwm at ei gilydd, tra mai Rhys Edwards (Gwenno) fu’n cymysgu.
Bydd Griff yn chwarae cyfres o gigs dros yr haf gan gynnwys y Victoria Dalston yn Llundain ar 17 Gorffennaf, Sesiwn Fawr Dolgellau y noson ganlynol, a bydd hefyd yn cefnogi Gruff Rhys yn Neuadd William Aston, Wrecsam ar nos Wener 8 Awst.