Wel, yn ddibynnol ar pryd fyddwch chi’n darllen hwn, mae 2025 un ai’n carlamu tuag atom ni, neu mi’r ydych chi’n barod wedi estyn am galendr newydd gwag ar gyfer y gegin.
Am y drydedd flwyddyn yn olynol, mi’r ydw wedi cael yr orchwyl braf iawn o ’sgota am yr artistiaid ifainc cyffrous y dylem ni gadw llygaid arnyn nhw yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.
Mae’n orchwyl sydd wastad yn gwneud i mi deimlo’n betrusgar braidd… yr amheuaeth am p’un a fydd ’na ddigon ohonyn nhw i’w cynnwys… ond unwaith eto eleni, dydy’r to ifanc heb siomi.
Os ga’i roi gair o gyngor i’r artistiaid yr ydw i wedi eu dethol: yn anffodus, do’n i methu cael gafael ar nifer helaeth ohonoch chi drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’n ymddangos fod eich blwch negeseuon ‘ar gau’; do’n i methu gyrru neges breifat atoch chi, a doedd nifer heb gynnwys cyfeiriad ebost yn y bio chwaith. Byddai’n syniad ceisio trwsio hyn, gan fod hwn yn fodd hynod gyfleus i drefnwyr gigs ac ati gysylltu â chi.
Reit, ymlaen â ni! Dyma ddetholiad o’r artistiaid ifainc i’w gwylio yn ystod 2025.
Paralel
Wrth lwc, mi ges i afael ar aelodau’r band Paralel, sef Hannah (prif lais), Alys (aml-offerynnwr), Nel (prif gitarydd), Iolo (gitâr rhythm, llais cefndirol), Amelia (sacsoffon, piano), a Lily (dryms). Maen nhw i gyd yn ddisgyblion yn Ysgol Bro Edern, Caerdydd, ac wedi ffurfio fel rhan o gynllun blynyddol Menter Caerdydd, ‘Yn Cyflwyno’.
“Rydym ni fel band wedi fod yn lwcus i gael llawer o brofiadau gwych dros y flwyddyn yma,” maen nhw’n esbonio. Maen nhw’n ddiolchgar i’r ysgol am gyfleoedd i berfformio ac ymarfer yno.
“Oherwydd y rhaglen ‘Yn Cyflwyno”, cafon ni siawns i berfformio yng Nghlwb Ifor Bach yng nghanol Caerdydd yn y ‘Gig Ieuenctid.’ Roedd yn bleser cwrdd â’r bandiau ‘Yn Cyflwyno’ ac i weld nhw yn perfformio mor dda. Y penwythnos ar ôl y gig ieuenctid, chwaraeodd Paralel yn Tafwyl, yn y pabell ‘Yurt T.’
“Ar ôl cyfansoddi mwy o ganeuon, cafon ni y cyfle i berfformio ar lwyfan Hanner Marathon Caerdydd, efo bandiau Cymraeg eraill anhygoel.”
Dechrau addawol i’r chwechawd felly, beth sydd ganddyn nhw ar y gweill yn 2025?
“Yn 2025, ein prif nod yw i arbed digon o arian i allu recordio EP efo’r caneuon rydym ni wedi cyfansoddi dros y sawl mis diwethaf. Mae gennym ni 5 gân wreiddiol i roi ar yr EP â fydd yn cael thema o ‘dywydd.’
“Rydym ni hefyd yn gyffrous i archwilio ac arbrofi efo arddulliau newydd o gerddoriaeth â fydd yn galluogi ni i ddarganfod arddull addas i ni fel band a beth mae’r cynulleidfa yn hoffi fwyaf. Rydym ni wastad mynd i ac wedi bod yn gyffrous i gwrdd â phobl newydd yn y gymuned gerddorol, ac yn edrych ymlaen tuag at unrhyw gigiau yn y dyfodol!”
Gallwch gadw llygad ar hynt a helynt Paralel ar eu tudalen Instagram, @paralel.band.
Alys a’r Tri Gŵr Noeth
Mae Alys a’r Tri Gŵr Noeth – Alys, Iago, Gwyn, ac Osian, oll yn ddisgyblion yn Ysgol Maes y Gwendraeth – eisoes wedi magu cryn brofiad ar y sîn.
“Fel band rydym wedi chwarae llawer o gigs,” esbonia Alys. “Ein hoff rhai yn cynnwys ennill cystadleuaeth bandiau ifanc Sŵn Sir Gar, chwarae yn Cwrw yng Nghaerfyrddin sawl gwaith, Gŵyl Canol Dre, a’n gig diweddaraf o chwarae ochr yn ochr â Dafydd Iwan. Profiadau bythgofiadwy!”
Rhyddhawyd eu sengl gyntaf, ‘Rhy Hir’, ym mis Hydref, a hynny ar label Amhenodol, a chafodd fideo cerddoriaeth ei ffilmio i gyd-fynd â hi wedi’i gynhyrchu gan Melyn Pictures.
Beth sydd ar y gweill gan y criw? “Gobeithiwn gael mwy o gigs yn lleol a chyrraedd cynulleidfa bellach drwy berfformio mewn lleoliadau fwy adnabyddus fel Maes B. Edrychwn ymlaen at ryddhau mwy o ganeuon gwreiddiol a rhyddhau albwm.”
Galwch gadw llygad ar hynt a helynt Alys a’r Tri Gŵr Noeth ar eu tudalen Instagram, @alys_ar_tri_gwr_noeth.
Tonnau
Grŵp pum aelod yw Tonnau, un arall o fandiau’r prosiect Yn Cyflwyno gan Fenter Caerdydd. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae sawl band, gan gynnwys Dadleoli a Taran, wedi ennyn cryn sylw a llwyddiant ar gynffon y prosiect. Bydd Tonnau’n cefnogi’r ddau grŵp yma mewn gig yng Nghlwb Ifor ganol mis Rhagfyr.
Mae Tonnau eisoes yn dechrau ymgyfarwyddo â pherfformio yn yr eiconig Glwb Ifor, a hwythau wedi cefnogi Gwilym yno ddiwedd mis Hydref.
Gallwch gadw llygad ar hynt a helynt Tonnau ar eu tudalen Instagram, @tonnauband.
Y Newyddion
O Sir Fôn y mae’r band nesaf yma’n dod, er bod eu haelodau bellach ar wasgar a hwythau wedi mynd i’r brifysgol.
Mae ‘Y Newyddion’ wedi bod yn perfformio ers ychydig o flynyddoedd, yn cefnogi Fleur de Lys, Celt, Morgan Elwy ac eraill.
Ond ym mis Hydref, rhyddhawyd eu sengl gyntaf, sef ‘Cadwa Dy Ben’, a hynny ar label Amhenodol. Ysgrifennwyd y gân yn y cyfnod clo, ac fe’i cyflwynwyd i’r band wrth iddyn nhw ffurfio yn 2022.
Maen nhw’n dweud eu bod nhw’n ffitio i’r categori indie-rock, gyda’u dylanwadau’n cynnwys Swnami, Fleur de Lys, Calfari, Sam Fender, a The 1975.
Gallwch gadw llygad ar hynt a helynt Y Newyddion ar eu tudalen Instagram @y_newyddion.
Merched Becca
Mae’r grŵp ifanc o ardal Llanelli, sy’n cynnwys yr aelodau Amy (prif leisydd), Lawson (gitâr), Evan (gitâr), Cerys (trwmped), Carrie (sacsoffôn), Jaque (allweddellau), a Finley (drymiau), eisoes wedi ennyn sylw’r wasg. Maen nhw i gyd yn ystyried eu hunain yn siaradwyr Cymraeg newydd; Menter Cwm Gwendraeth Elli oedd yn gyfrifol am roi’r grŵp ar y sîn Gymraeg, wrth iddyn nhw gystadlu yn Sŵn Sir Gâr.
Maen nhw’n sôn bod elfen jazz i’w cerddoriaeth diolch i’w offeryniaeth fel grŵp saith aelod, ac eisoes wedi rhyddhau eu sengl gyntaf ar y platfformau ffrydio, ‘Siarad Fel Fi’, ym mis Medi 2024.
Gallwch gadw llygad ar hynt a helynt Merched Becca ar eu tudalen Instagram, @_merched_becca_.
Y Gwir
Un arall o’r bandiau hynny sydd wedi cael budd o’r prosiect Yn Cyflwyno yn y brifddinas yw Y Gwir. Mae’r grŵp pedwar aelod wedi bod yn perfformio yng Nghlwb Ifor Bach fel rhan o’r cynllun, ac hefyd wedi adlonni ar lwyfan Hanner Marathon Caerdydd.
Gallwch gadw llygad ar hynt a helynt Y Gwir ar eu tudalen Instagram, @ygwir.
Wel, dyna ni, y wibdaith flynyddol ar ben!
Pob dymuniad da i’r bandiau ifanc yma wrth iddyn nhw geisio gwneud eu marc ar y sîn yn ystod 2025; mi fyddwn i’n edrych ymlaen yn eiddgar i glywed eu hanes.
Ac o’m rhan i, yr oll sydd gen i ar ôl i’w wneud yw dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd ddedwydd i chi gyd!
Geiriau: Gruffudd ab Owain
Darnau ‘Artistiaid ifainc i’w gwylio blaenorol:
Artistiaid ifainc i’w gwylio 2024
Artistiaid ifainc i’w gwylio 2023