Sengl ‘Jengyd’ gan Ffos Goch

Mae Ffos Goch wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Jengyd’. 

Dyma’r bedwaredd trac i lanio ganddo sy’n cynnig blas o albwm nesaf Ffos Goch, ‘Byd Sbwriel’, fydd yn cael ei ryddhau ar 26 Medi eleni.  

“Fel y sengl ddiwethaf, sef ‘Yn y Fagddu’, mae gwreiddiau’r gân yma’n dyddio nôl i’r nawdegau cynnar” eglura Stuart. 

“Ar y pryd roedd hi’n gân serch yn llawn chwerwder llencynnaidd. Mewn canol oed, mae hi wedi troi yn rhywbeth arall. 

“Mae’r trefniant yn dangos fy nghariad tuag at albwm acwstig The Jesus & Mary Chain, sef Stoned and Dethroned, oedd yn bwysig iawn i fi pan o’n i yn y brifysgol yn y nawdegau.”