Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu sengl ddwbl newydd.
‘Cymryd Ti Mas / Brifo Eto’ ydy enw’r traciau newydd sydd allan ganddynt ers dydd Gwener diwethaf, 1 Awst.
Mae’r sengl ddwbl yn ddilyniant i’r senglau ‘Gobaith’ a ‘Troi’n Aur’ a ryddhawyd ym misoedd Mai a Mehefin eleni, a’r newyddion da ydy mai tamaid pellach i aros pryd ydy’r traciau nes rhyddhau albwm cyntaf Taran ddiwedd mis Awst.
Mae Taran wedi mynd o nerth i nerth ers ffurfio ym mis Gorffennaf 2023 drwy gynllun ‘Yn Cyflwyno’ Tafwyl, gan ryddhau eu EP cyntaf, ‘Dyweda, wyt ti…’ flwyddyn yn ddiweddarach. Enillodd yr EP hwnnw wobr ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar ym mis Chwefror eleni.
Yn cyfuno egni ac agwedd amrwd, mae’r ddwy gân newydd yn cynnig cipolwg ar gyfeiriad newydd y band.
Tra bod ‘Cymryd Ti Mas’ yn drac llawn bywyd sydd eisoes wedi dod yn ffefryn mewn gigs byw gyda’i naws ‘bluesy’ a’i agwedd swynol, mae ‘Brifo Eto’ yn ddilyniant emosiynol i sengl y band o 2024, ‘Barod i Fynd’, sy’n dechrau’n syml cyn adeiladu’n rymus at uchafbwynt cofiadwy sy’n aros yn y cof.
Mae’r ddau drac yn pontio arddull gyfarwydd Taran ac elfen fwy aeddfed y band.
Mae profiadau diweddar Rose Datta, prif ganwr y band, gyda chyfres deledu Y Llais wedi dod ag egni creadigol newydd i’r band, ac yn ystod y misoedd diwethaf maent wedi bod yn recordio’r albwm gyda’r cynhyrchydd, Mei Gwynedd.