Mae un o wyliau cerddoriaeth cyntaf yr haf yng Nghymru wedi cyhoeddi manylion arlwy’r digwyddiad eleni.
Cynhelir Gŵyl Fel ‘na Mai yng Nghrymych a datgelwyd eisoes mai 3 Mai fydd dyddiad yr ŵyl yn 2025.
Bellach mae’r trefnwyr wedi datgelu pa artistiaid fydd yn perfformio, gan gyhoeddi hefyd bydd tocynnau’r digwyddiad yn mynd ar werth ar 18 Ionawr.
Yws Gwynedd fydd prif atyniad y digwyddiad a gynhelir ar Barc Gwynfryn yng Nghrymych eleni.
Ymysg yr artistiaid fydd yn cefnogi mae’r band Gwilym, a’r artist poblogaidd Meinir Gwilym.
Bydd prif ganwr Edward H Dafis, Cleif Harpwood yn perfformio hefyd ynghyd â Pys Melyn, Mali Hâf, Lafant a Taran.
Bydd croeso mawr hefyd mae’n siŵr i’r ffefrynnau lleol, Mattoidz, a ddaeth ynghyd am y tro cyntaf ers saith blynedd er mwyn chwarae yn yr ŵyl ddwy flynedd yn ôl yn 2023.
Ynghyd â’r artistiaid sydd wedi eu datgelu, bydd enillwyr cystadlaethau coffa Ail Symudiad yn perfformio yn yr ŵyl. Mae’r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Hermon ar 14 Chwefror.