Sengl newydd Fleur de Lys

Mae’r band poblogaidd o Fôn, Fleur de Lys, wedi rhyddhau eu sengl newydd . 

‘Fi’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac sy’n ddilyniant i’r sengl ‘Gad Ni Fod’ a ryddhawyd llynedd.

Daeth y sengl honno’n dilyn rhyddhau eu hail albwm ‘Fory ar ôl Heddiw’ yn 2023. Cafodd Fleur de Lys eu dewis yn ‘Fand Gorau’ y flwyddyn honno hefyd gan y gynulleidfa fu’n pleidleisio dros Wobrau’r Selar. 

Er nad ydynt wedi rhyddhau llawer iawn ers yr albwm, mae Fleur De Lys yn parhau i fod yn un o brif fandiau Cymru heddiw wrth iddynt gigio’n rheolaidd ers llwyddiant eu hail albwm. 

Gyda’r haf yn prysur agosáu a’r cyffro yn cynyddu ar gyfer gwyliau cerddorol Cymru, bydd y band yn chwarae yn Tafwyl fis Mehefin ac yn yr Eisteddfod Genedlaethol fis Awst.