Ymdrech ‘Wizard-pop’ gyntaf Dewin yn glanio

Ar ôl ffrwydro i amlygrwydd dros yr wythnosau diwethaf, mae’r band newydd cyffrous o Sir Benfro, Dewin, wedi rhyddhau eu sengl gyntaf. 

‘Syched Cas’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Fflach Cymunedol. 

Dau gerddor amryddawn o fryniau hudol y Preseli ydy Dewin.

Wedi eu magu’n gwrando ar jazz, cerddoriaeth gorawl, cerddoriaeth glasurol a chanu Mamgu, mae Jencyn Corp a Lefi Dafydd yn barod i ddod â’u chwarae technegol i fyd pop.

Gan ddisgrifio eu cerddoriaeth fel ‘wizard-pop’ mae’r band yn dilyn traddodiad Gorllewin Cymru o wneud pethau eu ffordd eu hunain. 

Gwobr a gwobrau

Dewin yn perfformio yn noson Gwobraur Selar, Mawrth 2025 (Llun: Celf Calon)

Ar ôl ennill Gwobr Goffa Richard a Wyn yn ddiweddar, mae’r band wedi ennill lle yn rhai o wyliau Gorllewin Cymru, ac yn mynd i fod yn gigio trwy’r haf cyn mynd i’r stiwdio i recordio’u halbwm cyntaf. Fel rhan o’r wobr, roedd cyfle hefyd iddynt berfformio yn noson Wobrau’r Selar yn ddiweddar, ac fe wnaethon nhw gyfareddu’r dorf yno. 

Dyma sengl gyntaf y label ar ei newydd wedd, Fflach Cymunedol. Gyda gogwydd cryf ar ddarganfod a datblygu talent lleol, mae Dewin yn adlewyrchiad perffaith o ethos y cwmni, ac yn nod i’r hiwmor sydd wedi bod mor ganolog at lwyddiant Fflach yn y gorffennol. 

Dyma’r gyntaf o gyfres o senglau gyda bandiau ac artistiaid newydd, gwaith o’r gymuned, ac enwau mwy cyfarwydd.

Trac breuddwydiol

Mae sengl gyntaf Dewin gyda’r cynhyrchydd Reuben Wilsdon-Amos yn bodoli rhywle rhwng Pink Floyd, Wings a Pys Melyn, ac yn dwyn i’r meddwl sŵn y band arall ‘na o Sir Benfro, Gorky’s Zygotic Mynci. 

Yn cynnwys deuawd chwythbren, organ, theramin, güiro, a haenau o leisiau, ar ben rhythm section sy’n gyrru’r gân ymlaen, mae sengl gyntaf y band o Sir Benfro yn wledd i’r glust ac yn goglais yr ymennydd.

O’i ddechreuad mympwyol, mae’r trac yn tyfu trwy ei linell gytgan ailadroddus, “i lan, i lan, i lan…” gan greu teimlad breuddwydiol, os anesmwyth, o ddianc.

Mae themâu’r gân o gariad a chwant yn wyneb y byd modern – ei thrychineb hinsawdd rhagweladwy, a’r dyfodol rhagdybus sy’n wynebu’r prif gymeriadau ifanc – yn cyrraedd crescendo gyda’r ddelwedd o gariadon yn gorwedd o dan dderwen, ei hun yn symbol o hirhoedledd, ac yn ein cysylltu â chyfriniaeth hynafol.

Wrth i’r gân gael ei rhoi i orffwys gyda’i alldro organ angladdol, cawn ein gadael yn teimlo ein bod ni ar yr un llaw wedi cyrraedd diwedd rhyw syniad mawreddog, ac ar y llaw arall wedi dod o hyd i ddechrau rhywbeth gwych. 

Mae fideo i gyd-fynd â’r trac hefyd wedi’i gynhyrchu a chyfarwyddo gan Lleucu Elisa, ac wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos PYST x Lŵp.

Dyma’r fid:

Llun: Dewin @ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2025 (Llun: Celf Calon)