Mae’r cynhyrchydd a cherddor amryddawn, Gorwel Owen, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Llun 10 Mawrth.
‘Craig y Llew’ ydy enw’r trac sydd wedi’i ryddhau ar ei label ei hun, Recordiau Ofn.
Yn deyrnged i Graig y Llew ym Mhorth y Tywod, Rhosneigr mae fideo o’r gân sydd yn gydymaith perffaith i fwynhau’r trac arbennig a hudolus yma ar gael i’w gwylio ar sianel YouTube Gorwel.
Y newyddion pellach ydy bod Gorwel wedi datgelu y byddai’r sengl ‘gyda gwynt teg’ yn drac agoriadol i albwm arfaethedig sydd ar y gweill ganddo.
Cyfraniad arbennig
Daw’r newyddion am gynnyrch newydd gan Gorwel yn dynn ar sodlau’r Selar yn cyflwyno eu gwobr Cyfraniad Arbennig iddo. Yn rhan o Wobrau’r Selar sy’n ddathliad o’r sin gyfoes a’r flwyddyn a fu yn benodol, mae’r wobr benodol hon yn cael ei rhoi i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i gerddoriaeth Gymraeg dros nifer o flynyddoedd a degawdau.
“Mae enillydd eleni wedi gwneud cyfraniad enfawr, nid yn unig fel cerddor, ond hefyd, ac efallai’n fwy arwyddocaol fe ellir dadlau, fel cynhyrchydd” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
“Boed fel cerddor neu gynhyrchydd mae wedi arloesi’n aruthrol dros y blynyddoedd, gan ddangos mentergarwch mewn sawl ystyr, a bod yn rhan allweddol o nifer o’r recordiau pwysicaf i ddod o Gymru erioed.
“Mae hefyd yn parhau’n weithgar fel artist, ac rydym ar ddeall bod cerddoriaeth newydd ar y gweill ganddo, gyda bwriad o ryddhau’n fuan, ac mae’r hirhoedledd yma’n un o’r ffactorau pwysig i ni wrth ystyried y wobr hon.”
Mae’r sengl newyn yn brawf pellach o hynny, ynghyd â’r albwm fydd yn dilyn.
Roedd cyfle arbennig i glywed sgwrs gyda Gorwel ar raglen Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru nos Lun diwethaf, 10 Mawrth.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Craig y Llew’: