Mae’r gantores amryddawn o ardal y Bala, Glain Rhys, wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Yr Un Hen Stori’ ar label Recordiau I KA CHING.
Mae Glain Rhys yn llais cyfarwydd i’r sin bellach diolch i ganeuon cofiadwy fel ‘Sara’, ‘Plu’r Gweinydd’ ac ‘Y Ferch yn Ninas Dinlle’ heb sôn am ei gyrfa ar y llwyfan gyda chriw Welsh Of The Westend ac yn ddiweddar, Cwmni Theatr Maldwyn.
Cydiodd thema ‘Yr Un Hen Stori’ wedi achos llofruddiaeth y bwa croes ar Ynys Môn. Sut y mae pobl yn adrodd unrhyw beth y maen nhw’n ei glywed, er nad oes sail iddo, a’r cyfan yn troi’n ‘Chinese whispers’. Dydi’r stori ar ddechrau’r gân ddim yr un peth a’r stori ar y diwedd.
Recordiwyd y gân yn stiwdio Graig Las gyda’r cynhyrchydd Siôn Roberts ac mae’n dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid megis Pale Waves, Catty ac Olivia Rodrigo. Sain pop, alawon bachog ac emosiwn sy’n gyrru’r gân, fel rhyw fath o “ddyddiadur cerddorol”, eglura Glain.
“Mae hi’n efelychu symlrwydd yr albwm gynta’”, eglura Glain am y sengl.
“Tra’n dal gafael ar naws arbrofol, a sain fwy pop yr ail albwm. Ond ‘de ni wedi chwarae gyda syniadaeth drymach yn y gitars gan Siôn, sy’n dod yn naturiol iddo, ac yntau yn cynhyrchu ac yn drymio i Fleur de Lys.”